Enghraifft o'r canlynol | hen broffesiwn, pennaeth prifysgol, teitl swydd |
---|---|
Math | pennaeth prifysgol |
Rhan o | sefydliad addysg uwch |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng Nghymru ac mewn llawer o wledydd eraill, is-ganghellor yw prif weithredwr prifysgol, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Fel arfer, bydd tîm rheoli prifysgol yn cynnwys yr is-ganghellor a sawl dirprwy is-ganghellor.
Fel arfer, swydd wirfoddol a symbolaidd yn unig yw swydd y canghellor mewn prifysgolion, sy'n cael ei rhoi i rywun sydd wedi llwyddo mewn rhyw faes, yn enwedig y gyfraith neu wleidyddiaeth. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, canghellor yw'r teitl a roddir i brif weithredwr y sefydliad, yn hytrach nag is-ganghellor.