O fewn maes ieithyddiaeth, a thafodieitheg, terfyn daearyddol sydd yn dynodi nodwedd ieithyddol neilltuol yw isoglos.[1] Gall y nodwedd fod yn iaith neu dafodiaith gyfan, neu rywbeth megis ymadrodd, ynganiad, neu acen leol.
Gan amlaf, nid oes gwahaniad manwl gywir ar hyd yr isoglos, oni bai ei fod yn cyfateb i ffin ddaearyddol neu wleidyddol gadarn sydd yn arwahanu'r cymunedau ieithyddol. Fel arfer mae ardal drawsnewidiol ar gyrion y goror, ac yno mae'r ddwy nodwedd ieithyddol yn gorgyffwrdd. Weithiau defnyddir isoglos i ddangos newidiadau dros amser, megis ymlediad neu enciliad iaith mewn tiriogaeth benodol.
Enghraifft o isoglos yng Nghymru yw Llinell Landsker sydd yn nodi'r ffin rhwng ardaloedd Cymraeg ac ardaloedd Saesneg yn Sir Benfro.