Israel

Israel
Medīnat Yisrā'el
دولة إسرائيل  (Arabeg)
Dawlat Isrā'īl
Mathgwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, rhanbarth, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTiroedd Israel, Jacob Edit this on Wikidata
PrifddinasJeriwsalem Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,840,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyddrwy Annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Gyfunol
14 Mai 1948
AnthemHatikva Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBenjamin Netanyahu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Israel, Amser Haf Israel, Asia/Jerusalem, UTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hebraeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Asia Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd20,770 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Lefant, Môr Galilea, Môr Marw, Gwlff Aqaba, Afon Iorddonen, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSyria, Gwlad Iorddonen, Yr Aifft, Libanus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31°N 35°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined Israel Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholY Knesset Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Israel Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethIsaac Herzog Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Israel Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBenjamin Netanyahu Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganDavid Ben-Gurion Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)520,700 million doler Edit this on Wikidata
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Canran y diwaith66.36 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.08 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.919 Edit this on Wikidata

Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل‎, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond Arabiaid yw dros 20% o'r boblogaeth. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinnir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd.[1]

Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.

Ceir yma dystiolaeth o ymfudiad cynharaf hominidau allan o Affrica.[2] Gwelir olion archeolegol llwythau Canaaneaidd fu yma ers yr Oes Efydd Ganol,[3][4] tra daeth Teyrnasoedd Israel a Jwda i'r amlwg yn ystod yr Oes Haearn.[5][6] Dinistriodd yr Ymerodraeth Newydd Assyria Samarial tua 720 CC,[7] a gorchfygwyd Jwda (rhan bychan o'r Israel a adnabyddir heddiw) yn ddiweddarach gan ymerodraethau Babilonaidd, Persiaidd a Helenistig.[8] Yn Jwda yn y 160au CC, arweiniodd y Gwrthryfel Maccabean llwyddiannus at deyrnas Hasmonaidd annibynnol rhwng  140 CC a 37 CC,[9] ac a ddaeth yn 63CC yn rhan o'r Weriniaeth Rufeinig ac yn 6 ÔC fe'i gwnaed yn dalaith Rufeinig Jwdea.[10] Parhaodd Jwda fel talaith Rufeinig nes i'r gwrthryfeloedd Iddewig a fethodd arwain at ddinistr eang,[9] pan ddiarddelwyd y boblogaeth Iddewig[9][11] ac ailenwi'r rhanbarth o Iudaea (Jwda) i Palesteina Syria.[12]

Yn y 7g, cymerwyd y Lefant Bysantaidd gan yr Arabiaid ac arhosodd dan reolaeth Fwslimaidd tan y Groesgad Gyntaf yn 1099, ac yna o dan Swltaniaeth yr Aifft, wedi concwest Ayyubid yn1187. Ymestynnodd Swltanad Mamluk yr Aifft ei reolaeth dros y Lefant yn y 13g nes iddo gael ei drechu gan yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517. Yn ystod y 19g, arweiniodd deffroad cenedlaethol ymhlith Iddewon ledled y byd at sefydlu'r mudiad Seionaidd gan ffewnfudo i Balesteina fesul miloedd.

Gorchfygwyd yr Arabiaid gan yr Ymerodraeth Brydeinig (Lloegr) rhwng 1920 a 1948, a daeth dan Fandad Prydain a daeth y Rheolaeth Otomanaidd i ben. Unwaith y cytunodd y Lloegr i gyflenwi arfau i'r Brigâd Iddewig a ffurfiwyd ganddynt ym 1944, ymunodd Iddewon yr Yishuv gyda Lloegr a'r cynghreiriaid yn swyddogol. Ar ddiwedd y rhyfel, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig (UN), a oedd yn awyddus i apelio at garfanau Arabaidd ac Iddewig, Gynllun Rhaniad ar gyfer Palestina ym 1947 yn argymell creu gwladwriaethau Arabaidd ac Iddewig annibynnol, a gweinyddu Jeriwsalem yn rhyngwladol.[13] Derbyniwyd y cynllun gan yr Asiantaeth Iddewig ond cafodd ei wrthod gan arweinwyr Arabaidd. Y flwyddyn ganlynol, datganodd yr Iddewon annibyniaeth Israel, ac wedi Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, sefydlwyd Israel fwy neu lai lle bu'r tiroedd dan Fandad, tra bod y Lan Orllewinol a Gaza yn cael eu dal gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos.[14] Ers hynny, mae Israel wedi ymladd sawl rhyfel â gwledydd Arabaidd,[15] er mwyn ceisio cynnal y titoedd hyn a orchfygwyd ganddynt, ac ers y Rhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967 nhw hefyd oedd yn rheoli'r hyn a elwir yn "diriogaethau dan feddiant" sy'n cynnwys y Lan Orllewinol, Ucheldiroedd Golan a Llain Gaza.

Ystyrir yn rhyngwladol mai meddiant Israel o diriogaethau Palestina yw'r meddiannaeth filwrol hiraf y byd yn y cyfnod modern. Nid yw'r ymdrechion i ddatrys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina wedi arwain at gytundeb heddwch terfynol er bod a bod Israel wedi llofnodi cytundebau heddwch gyda'r Aifft a Gwlad Iorddonen.[16]

Yn ei Deddfau Sylfaenol, mae Israel yn diffinio'i hun fel "gwladwriaeth Iddewig a democrataidd, a chenedl wladwriaeth y bobl Iddewig".[17] Disgrifir ei gwleidyddiaeth fel "democratiaeth ryddfrydol " gyda system seneddol, cynrychiolaeth gyfrannol, a rhyddhad cyffredinol (Universal suffrage).[18][19] Y prif weinidog yw pennaeth y llywodraeth a'r Knesset yw'r ddeddfwrfa (tebyg i'r Senedd yng Nghymru). Roedd ganddi boblogaeth o oddeutu 9 miliwn yn 2019,[20] ac mae'n wlad ddatblygedig ac yn aelod OECD.[21]

Ganddi hi mae'r 32fed economi fwyaf'r byd yn ôl CMC enwol, yn bennaf oherwydd y nawdd ariannol, blynyddol mae'n ei dderbyn gan UDA,[22] ac mae ganddi'r safon byw uchaf yn y Dwyrain Canol. Mae ymhlith gwledydd sydd a'r canran uchaf o: dinasyddion sydd â hyfforddiant milwrol,[23] dinasyddion sydd â gradd addysg drydyddol, gwariant ymchwil a datblygu yn erbyn canran CMC,[24] diogelwch menywod,[25] disgwyliad oes,[26] dyfeisgarwch,[27] a hapusrwydd.[28]

  1. "Israel". Freedom in the World (yn Saesneg). Freedom House. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 Mawrth 2012.
  2. Charles A. Repenning & Oldrich Fejfar, Evidence for earlier date of 'Ubeidiya, Israel, hominid site Nature 299, 344–347 (23 Medi 1982)
  3. Encyclopædia Britannica article on Canaan
  4. Jonathan M Golden,Ancient Canaan and Israel: An Introduction, OUP, 2009 pp. 3–4.
  5. Finkelstein, Israel; Silberman, Neil Asher (2001). The Bible unearthed : archaeology's new vision of ancient Israel and the origin of its stories (arg. 1st Touchstone). New York: Simon & Schuster. ISBN 978-0-684-86912-4.
  6. The Pitcher Is Broken: Memorial Essays for Gosta W. Ahlstrom, Steven W. Holloway, Lowell K. Handy, Continuum, 1 May 1995 Quote: "For Israel, the description of the battle of Qarqar in the Kurkh Monolith of Shalmaneser III (mid-ninth century) and for Judah, a Tiglath-pileser III text mentioning (Jeho-) Ahaz of Judah (IIR67 = K. 3751), dated 734–733, are the earliest published to date."
  7. Broshi, Maguen (2001). Bread, Wine, Walls and Scrolls. Bloomsbury Publishing. t. 174. ISBN 978-1-84127-201-6.
  8. Jon L. Berquist (2007). Approaching Yehud: New Approaches to the Study of the Persian Period. Society of Biblical Lit. tt. 195–. ISBN 978-1-58983-145-2.
  9. 9.0 9.1 9.2 Peter Fibiger Bang; Walter Scheidel (2013). The Oxford Handbook of the State in the Ancient Near East and Mediterranean. Oxford University Press. tt. 184–187. ISBN 978-0-19-518831-8.
  10. Abraham Malamat (1976). A History of the Jewish People. Harvard University Press. tt. 223–239. ISBN 978-0-674-39731-6.
  11. Yohanan Aharoni (15 Medi 2006). The Jewish People: An Illustrated History. A&C Black. tt. 99–. ISBN 978-0-8264-1886-9.
  12. Erwin Fahlbusch; Geoffrey William Bromiley (2005). The Encyclopedia of Christianity. Wm. B. Eerdmans Publishing. tt. 15–. ISBN 978-0-8028-2416-5.
  13. "Resolution 181 (II). Future government of Palestine". United Nations. 29 Tachwedd 1947. Cyrchwyd 21 Mawrth 2017.
  14. "Declaration of Establishment of State of Israel". Israel Ministry of Foreign Affairs. 14 Mai 1948. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mawrth 2017. Cyrchwyd 21 Mawrth 2017.
  15. Gilbert 2005
  16. See for example:

    * Hajjar, Lisa (2005). Courting Conflict: The Israeli Military Court System in the West Bank and Gaza. University of California Press. t. 96. ISBN 978-0-520-24194-7. The Israeli occupation of the West Bank and Gaza is the longest military occupation in modern times.

    * Anderson, Perry (July–August 2001). "Editorial: Scurrying Towards Bethlehem". New Left Review 10. https://newleftreview.org/article/download_pdf?id=2330. Adalwyd 2021-08-27. "longest official military occupation of modern history—currently entering its thirty-fifth year"

    * Makdisi, Saree (2010). Palestine Inside Out: An Everyday Occupation. W.W. Norton & Company. ISBN 978-0-393-33844-7. longest-lasting military occupation of the modern age

    * Kretzmer, David (Spring 2012). "The law of belligerent occupation in the Supreme Court of Israel". International Review of the Red Cross 94 (885): 207–236. doi:10.1017/S1816383112000446. https://www.icrc.org/eng/assets/files/review/2012/irrc-885-kretzmer.pdf. "This is probably the longest occupation in modern international relations, and it holds a central place in all literature on the law of belligerent occupation since the early 1970s"

    * Alexandrowicz, Ra'anan (24 Ionawr 2012), "The Justice of Occupation", The New York Times, https://www.nytimes.com/2012/01/25/opinion/the-justice-of-occupation.html, "Israel is the only modern state that has held territories under military occupation for over four decades"

    * Weill, Sharon (2014). The Role of National Courts in Applying International Humanitarian Law. Oxford University Press. t. 22. ISBN 978-0-19-968542-4. Although the basic philosophy behind the law of military occupation is that it is a temporary situation modem occupations have well demonstrated that rien ne dure comme le provisoire A significant number of post-1945 occupations have lasted more than two decades such as the occupations of Namibia by South Africa and of East Timor by Indonesia as well as the ongoing occupations of Northern Cyprus by Turkey and of Western Sahara by Morocco. The Israeli occupation of the Palestinian territories, Nodyn:Underline has already entered its fifth decade.
    * Azarova, Valentina. 2017, Israel's Unlawfully Prolonged Occupation: Consequences under an Integrated Legal Framework, European Council on Foreign Affairs Policy Brief: "June 2017 marks 50 years of Israel's belligerent occupation of Palestinian territory, making it the longest occupation in modern history."
  17. "Israel". Freedom in the World. Freedom House. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 Mawrth 2012.
  18. Rummel 1997. "A current list of liberal democracies includes: Andorra, Argentina, ..., Cyprus, ..., Israel, ..."
  19. "Global Survey 2006: Middle East Progress Amid Global Gains in Freedom". Freedom House. 19 December 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 Mawrth 2012.
  20. "Latest Population Statistics for Israel". www.jewishvirtuallibrary.org. Cyrchwyd 23 Mawrth 2019.
  21. "Israel's accession to the OECD". Organisation for Economic Co-operation and Development. Cyrchwyd 12 Awst 2012.
  22. "Current conflicts". 13 Mehefin 2019.
  23. IISS 2018, pp. 339–340
  24. "Research and development (R&D) – Gross domestic spending on R&D – OECD Data". data.oecd.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-14. Cyrchwyd 10 Chwefror 2016.
  25. Australia, Chris Pash, Business Insider (2017). "The 10 safest countries in the world for women". Business Insider. Cyrchwyd 23 Mawrth 2019.
  26. "Health status – Life expectancy at birth – OECD Data". theOECD.
  27. "These Are the World's Most Innovative Countries". Bloomberg.com. Cyrchwyd 24 Ionawr 2019.
  28. Report, World Happiness (14 Mawrth 2018). "World Happiness Report 2018". World Happiness Report (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2019.

Developed by StudentB