Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Malayo-Polynesaidd |
Label brodorol | Jawa |
Enw brodorol | Basa Jawa |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | jv |
cod ISO 639-2 | jav |
cod ISO 639-3 | jav |
Gwladwriaeth | Indonesia, Maleisia |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Pegon alphabet, Kawi script, Javanese script, Formal Javanese Spelling |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Jafaneg (Basa Jawa). Fe'i siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain ynys Jawa yn Indonesia, ond ceir siaradwyr yn Swrinam a Caledonia Newydd. Mae rhwng 80 a 100 miliwn o siaradwyr i gyd, sy'n rhoi yr iaith yn 11fed ymhlith ieithoedd y byd.
Yr arysgrif hynaf i'w ddarganfod mewn Jafaneg yw Arysgrif Sukabumi, a ddyddir i 25 Mawrth 804. Mae gan yr iaith ei gwyddor ei hun, ond gellir ei hysgrifennu gyda'r wyddor Ladin hefyd. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy. Siaredir ffurf Kromo a phobl o staws uwch na'r siaradwr, a Ngoko a phobl o statws is.