James Stewart | |
---|---|
Ganwyd | James Maitland Stewart 20 Mai 1908 Indiana |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1997 o trawiad ar y galon, ataliad y galon, emboledd ysgyfeiniol, thrombosis Beverly Hills |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, hedfanwr, actor cymeriad, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, person milwrol, actor llwyfan, bardd, actor llais, cyfarwyddwr ffilm, actor, llenor, cyfarwyddwr, actor ffilm |
Arddull | y Gorllewin gwyllt |
Taldra | 191 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Alexander Maitland Stewart |
Mam | Elizabeth Ruth Stewart |
Priod | Gloria Hatrick McLean |
Gwobr/au | Croix de guerre 1939–1945, Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Commendation Medal, Armed Forces Reserve Medal, Croix de guerre, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Silver Bear, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Gwobr Golden Boot, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Ours d'or d'honneur |
llofnod | |
Actor o'r Unol Daleithiau oedd James Stewart (20 Mai 1908 – 2 Gorffennaf 1997). Roedd yn adnabyddus i'w ffrindiau a'i ffans fel Jimmy Stewart. Cafodd yrfa hir yn gwneud ffilmiau a daeth yn un o actorion mwyaf adnabyddus Hollywood. Gwyddai sut i bortreadu cymeriadau y gallai pobl gyffredin uniaethu â hwy yn hawdd, yn arbennig yn ei gomedïau. Daeth ei wyneb a'i lais cyfareddol yn un o eiconau ei gyfnod.
Cafodd ei eni yn Indiana, Pennsylvania ym 1908. Priododd Gloria Hatrick McLean ar 9 Awst 1949. Daeth i amlygrwydd fel actor comedi ac actor mewn ffimiau Western ddiwedd y 1930au a'r 1940au. Serenodd gyda rhai o actorion mwyaf y dydd, yn cynnwys Katharine Hepburn (The Philadelphia Story) a Marlene Dietrich (Destry Rides Again).
Cymerodd ei yrfa dro newydd pan gafodd ei ddewis gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock i serennu mewn cyfres o ffilmiau arloesol fel Rope (1948), Vertigo (1958, gyda Kim Novak) a Rear Window (1954). Ystyrir yr olaf yn un o'i ffilmiau gorau. Ar ôl cyfnod y ffilmiau Hitchcock dychwelodd i fyd y Western a gwnaeth gyfres o ffilmiau nodedig gan gynnwys How the West Was Won (1962).