Jamie Lee Curtis | |
---|---|
Ganwyd | 22 Tachwedd 1958 Santa Monica |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, llenor, awdur plant, cynhyrchydd gweithredol |
Adnabyddus am | Halloween, A Fish Called Wanda |
Cartre'r teulu | yr Almaen |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Tony Curtis |
Mam | Janet Leigh |
Priod | Christopher Guest |
Plant | Ruby Guest, Annie Guest |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Hasty Pudding Woman of the Year, Jupiter Awards, 'Disney Legends' |
llofnod | |
Awdur ac actores Americanaidd yw Jamie Lee Curtis (ganwyd 22 Tachwedd 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor ffilm, teledu, a llais - ac fel awdur plant.
Ganed Jamie Lee Haden-Guest yn Santa Monica, California ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Choate Rosemary Hall, Ysgol Uwchradd Beverly Hills, Prifysgol y Pacific ac Ysgol Uwchradd Westlake. Priododd Christopher Guest ac mae Thomas Guest ac Annie Guest yn blant iddi. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, a bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.[1][2][3][4][5]
Gwnaeth ei ffilm gyntaf ym 1978 fel y cymeriad Laurie Strode yn ffilm arswyd John Carpenter Halloween (Calan Gaeaf). Sefydlodd y ffilm hi fel y "scream queen", ac ymddangosodd mewn cyfres o ffilmiau arswyd ym 1980, gan gynnwys The Fog, Prom Night, a Terror Train. Ail-chwaraeodd rôl Laurie Strode mewn pedwar dilyniant, gan gynnwys Halloween II (1981), Halloween H20: 20 Years Later (1998), Halloween: Resurrection (2002), a Halloween (2018).
Mae ffilmiau Curtis yn rhychwantu sawl genres, gan gynnwys y comedïau cwlt Trading Places (1983) ac am ei thrafferth, derbyniodd wobr BAFTA am yr Actores Gefnogol Orau, ac A Fish Called Wanda (1988), a ddaeth ag enwebiad BAFTA iddi am yr Actores Orau. Enillodd wobr y Golden Globe, Gwobr Gomedi Americanaidd, a Gwobr Saturn am chwarae rhan serennu Helen Tasker yn ffilm gomedi actio James Cameron True Lies (1994). Mae ffilmiau mawr eraill Curtis yn cynnwys Blue Steel (1990), My Girl (1991), Forever Young (1992), The Tailor of Panama (2001), Freaky Friday (2003), Beverly Hills Chihuahua (2008), You Again (2010) , Veronica Mars (2014), a Knives Out (2019).
Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau plant, ers 1998 pan gyhoeddodd Today I Feel Silly, a Other Moods That Make My Day yn gwneud rhestr gwerthwyr gorau The New York Times. Mae hi hefyd yn flogiwr aml ar gyfer The Huffington Post. Derbyniodd Curtis seren ar y Hollywood Walk of Fame ym 1998.