Jimmy Wales | |
---|---|
Ffugenw | Jimbo |
Llais | Jimmy Wales voice.ogg |
Ganwyd | Jimmy Donal Wales 7 Awst 1966 Huntsville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | person busnes, blogiwr, entrepreneur, wicimediwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymchwilydd, areithydd, masnachwr |
Swydd | Chair of the Wikimedia Foundation Board of Trustees, non-executive director, Founder's seat |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Wikipedia |
Prif ddylanwad | Ayn Rand, Friedrich Hayek |
Priod | Kate Garvey, Christine Rohan, Pamela Green |
Gwobr/au | Quadriga, Gwobr EFF, Gottlieb Duttweiler Prize, UNESCO Niels Bohr Medal, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Young Global Leaders, Leonardo Award, Gwobr Dan David, Medal y Llywydd, prix Giles, Nokia Foundation Recognition Award |
Gwefan | https://jimmywales.com/ |
llofnod | |
Entrepreneur Americanaidd yw Jimmy Donal "Jimbo" Wales (/ˈdʒɪmi ˈdoʊnəl ˈweɪlz/; ganwyd 7 Awst 1966)[1]. Fe yw cyd-sylfaenydd a hyrwyddwyr y gwyddoniadur dielw arlein Wikipedia a'r cwmni lletya gwe di-elw Wikia.[2][3]
Ganwyd Wales yn Huntsville, Alabama, lle mynychodd Randolph School, ysgol baratoi i brifysgol.[4] Yn ddiweddarach fe enillodd graddau baglor a meistr mewn cyllid o Brifysgol Auburn ac yna Prifysgol Alabama, yn ôl eu trefn.
Tra yn ysgol raddedigion, fe ddysgodd mewn dwy brifysgol, ond gadawodd cyn cwblhau PhD i gymryd swydd mewn cyllid a gweithiodd yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr ymchwil mewn cwmni cyllid yn Chicago. Yn 1996, fe wnaeth e a dau bartner ffurfio Bomis, porth gwe ar gyfer dynion, yn cynnwys adloniant a deunydd i oedolion. Fe fyddai'r cwmni yn ffynhonnell arian cychwynnol ar gyfer y gwyddoniadur am ddim Nupedia (2000–2003) a'i olynydd, Wikipedia.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw WMF PR 2004-04-25
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Economist2008