John, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1166 Palas Beaumont |
Bu farw | 19 Hydref 1216 Castell Newark |
Swydd | teyrn Lloegr, dug Normandi, Arglwydd Iwerddon, cownt Angyw |
Tad | Harri II, brenin Lloegr |
Mam | Eleanor o Aquitaine |
Priod | Isabel, Iarlles Caerloyw, Isabella o Angoulême |
Partner | Adela de Warenne, Clementina, Hawise de Tracy, Agatha de Ferrers |
Plant | Harri III, brenin Lloegr, Richard, iarll 1af Cernyw, Joan o Loegr, Brenhines yr Alban, Isabella o Loegr, Elinor, iarlles Caerlŷr, y Dywysoges Siwan, Richard Fitzroy, Oliver Fitz Regis, Osbert Gifford, Geoffrey Fitzroy, John Fitzjohn, Odo Fitzroy, Ivo, Harri, Richard o Wallingford, Matilda o Barking, Isabella La Blanche, Joan |
Llinach | Llinach Angyw |
Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 1166 – 18/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.
Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.
Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty Westminster ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.
Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.
Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.