John Paul Getty Jr | |
---|---|
Ganwyd | Eugene Paul Getty 7 Medi 1932 Genova |
Bu farw | 17 Ebrill 2003 Llundain |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dyngarwr, llyfrgarwr, person busnes |
Cyflogwr | |
Tad | J. Paul Getty |
Mam | Ann Rork Light |
Priod | Talitha Getty, Gail Harris, Victoria Holdsworth |
Plant | Mark Getty, John Paul Getty III, Aileen Getty, Ariadne Getty, Tara Getty |
Llinach | Getty family |
Gwobr/au | KBE |
Roedd Syr John Paul Getty, KBE ganwyd Eugene Paul Getty; 7 Medi 1932 – 17 Ebrill 2003), yn ddyngarwr o'r Unol Daleithiau a mabwysiadodd dinasyddiaeth Prydeinig ac yn gasglwr llyfrau prin. Ef oedd y trydydd o bum mab a anwyd i Jean Paul Getty Sr. (1892-1976), un o'r dynion cyfoethocaf yn y byd ar y pryd, a'i wraig Ann Rork. Roedd cyfoeth teulu Getty yn dod o'r busnes olew a sefydlwyd gan Franklin George Getty. Wrth gofrestru ei enedigaeth rhoddwyd iddo'r enw Eugene Paul Getty, yn ystod ei fywyd defnyddiodd nifer o enwau eraill, gan gynnwys Paul Getty, John Paul Getty, Jean Paul Getty Jr, a John Paul Getty II. Ym 1986, fe wnaed yn farchog er anrhydedd am wasanaethau i achosion cyhoeddus yn amrywio o griced, celf a'r Blaid Geidwadol. Daeth ei farchogaeth anrhydeddus yn un go iawn wedi iddo ddewis dod yn ddinesydd Prydeinig ym 1997. Yn Anglophile o argyhoeddiad[1] daeth yn ddinesydd Prydeinig ym 1997. Ym 1998 defnyddiodd weithred newid enw i ymwrthod a'i enw cyntaf John/Eugene a datgan ei fod yn dymuno cael ei adnabod fel Syr Paul Getty, KBE.[2]