John Williams | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1840 Capel Gwynfe |
Bu farw | 24 Mai 1926 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, obstetrydd, llyfrgellydd |
Swydd | cadeirydd |
Tad | David Williams |
Mam | Eleanor Williams |
Casglwr llawysgrifau Cymreig ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd Syr John Williams (6 Tachwedd 1840 – 24 Mai 1926). Fe'i ganed ar fferm "Y Beili", Gwynfe, Sir Gaerfyrddin a bu farw yn "Blaenllynant", Aberystwyth. Cafodd yrfa fel llawfeddyg yn Abertawe ac yna yng Ngholeg Prifysgol Llundain; fe'i gwnaed yn farchog ym 1894 am ei wasanaeth i lawfeddygaeth, a dychwelodd i'w sir enedigol ym 1903 i fyw yn Llansteffan.
Trwy gydol ei oes bu'n gasglwr llawysgrifau brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel Llawysgrifau Llansteffan, yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel Gwallter Mechain a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd Lewis Morris, ac eraill. Yn ogystal, prynodd Lawysgrifau Peniarth ym 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg erioed.
Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd llawysgrifau pwysicaf Cymru yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.