Jonathan Edwards (gwleidydd)

Jonathan Edwards AS
Jonathan Edwards (gwleidydd)


Deiliad
Cymryd y swydd
6 Mai 2010
Rhagflaenydd Adam Price

Geni (1976-04-26) 26 Ebrill 1976 (48 oed)[1]
Capel Hendre, Sir Gaerfyrddin[2]
Plaid wleidyddol Annibynnol (Gwaharddwyd o Blaid Cymru ar 15 Gorffennaf 2020)
Alma mater Prifysgol Aberystwyth
Gwefan jonathanedwards.org.uk

Gwleidydd Cymreig yw Jonathan Edwards. Etholwyd fel Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2010 ac fe'i ail-etholwyd yn Etholiad Cyffredinol 2015. Ers Mai 2015 daeth Edwards yn Arweinydd Seneddol Plaid Cymru ond fe ymddiswyddodd yn Medi 2015 am resymau personol gan basio'r swydd i Hywel Williams.[3]

Cafodd ei arestio ar 20 Mai 2020 ar amheuaeth o ymosod wedi digwyddiad yn ei gartref, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth. Collodd chwip Plaid Cymru tra bod yr heddlu yn ymchwilio.[4] Derbyniodd rybudd gan yr heddlu sydd yn gyfaddefiad o euogrwydd, a gwnaeth ymddiheuriad a dderbyniwyd gan ei wraig Emma.[5]

Ar 15 Gorffennaf 2020 cafodd Edwards ei wahardd o Blaid Cymru ar ôl ymchwiliad swyddogol gan banel disgyblu'r blaid. Roedd y gwaharddiad yn parhau am gyfnod o flwyddyn gyda Edwards yn eistedd fel gwleidydd annibynnol. Os oedd am ail-ymuno gyda'r blaid gallai ymddangos o flaen y panel eto mewn blwyddyn.[6]. Yng Ngorffennaf 2021 dywedodd nad oedd am ail-ymuno â'r blaid, a byddai'n parhau fel Aelod Seneddol annibynnol.[7]

  1. "Jonathan Edwards MP". BBC Democracy Live. BBC. Cyrchwyd 25 July 2010.
  2. http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whoswho/U251537/
  3. Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn ymddiswyddo , Golwg360, 10 Medi 2015. Cyrchwyd ar 28 Mai 2016.
  4. AS Plaid Cymru wedi'i arestio ar amheuaeth o ymosod , BBC Cymru Fyw, 23 Mai 2020.
  5. AS yn cael rhybudd heddlu ac yn ymddiheuro , BBC Cymru Fyw, 27 Mehefin 2020.
  6. "AS Plaid Cymru wedi'i wahardd o'r blaid am 12 mis". BBC Cymru Fyw. 2020-07-15. Cyrchwyd 2020-07-15.
  7. Jonathan Edwards ddim am ailymuno â Phlaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 13 Gorffennaf 2021.

Developed by StudentB