Julia Hauke | |
---|---|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1825 Warsaw |
Bu farw | 19 Medi 1895 o clefyd Schloss Heiligenberg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Archddugiaeth Hessen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | boneddiges breswyl |
Tad | John Maurice Hauke |
Mam | Sophie Lafontaine |
Priod | y Tywysog Alecsander o Hesse a'r Rhein |
Plant | Henry Maurice Battenberg, Tywysog Louis o Battenberg, Y Dywysoges Marie o Battenberg, Alexander Battenberg, y Tywysog Franz Joseph o Battenberg |
Llinach | House of Hauke, House of Battenberg |
Gwobr/au | Urdd Santes Gatrin, Urdd Theresa |
Roedd Julia Hauke (ganwyd: Julia Therese Salomea Hauke) (12 Tachwedd 1825 - 19 Medi 1895) yn foneddiges breswyl i'r Ymerodres Marie Alexandrovna o Rwsia. Cyfarfu a syrthiodd mewn cariad â'r Tywysog Alecsander o Hesse wrth gyflawni ei dyletswyddau yn y llys yn St Petersburg. Nid oedd yr Ymerawdwr yn cytuno efo'r berthynas, felly trefnodd y ddau i adael St Petersburg ar gyfer gwledydd Prydain. Priodwyd y ddau yn 1851 a chawsant bump o blant. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd teimladau gwrth-Almaeneg, Seisnigodd y teulu eu henw i Mountbatten ac ymwrthododd â phob teitl Almaeneg. Rhoddwyd arglwyddiaethau iddynt gan eu cefnder Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig.
Ganwyd hi yn Warsaw yn 1825 a bu farw yn Schloss Heiligenberg yn 1895. Roedd hi'n blentyn i John Maurice Hauke a Sophie Lafontaine.[1][2][3]