Enghraifft o'r canlynol | duwdod Rhufeinig, duwies |
---|---|
Rhan o | Capitoline Triad, Dii Consentes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Duwies o'r Rhufain hynafol sy'n cyfateb yn fras i'r dduwies Hera, gwraig Zeus (Iau) ym mytholeg Roeg yw Juno (Lladin: Iuno). Fel Iovino, roedd hi'n wraig i Iovis (Iau) yn y pantheon Rhufeinig. Duwies y Nefoedd (Iuno Regina) a'r Goleuni Nefol oedd hi.[1]
Mae llawer o'i hanes fel gwraig Iau yn deillio o fytholeg Roeg, ond cyn iddi gael ei huniaethu â Hera roedd hi'n dduwies Eidalaidd frodorol, yn Frenhines y Merched a chreaduriaid benywaidd, yn gymaint felly fel roedd pob merch yn ei haddoli fel nawdd-dduwies bersonol ac yn tyngu llwon wrth ei henw. Ei ffurf fwyaf cyffredin a mwyaf hynafol efallai yn yr Eidal oedd Iuno Lucina ('Rhoddwr Goleuni' / 'Hi sy'n dod â'r Goleuni'). Yn yr agwedd yma, hi oedd duwies dechrau pob mis. Fel duwies y Goleuni roedd hi'n dduwies genedigaeth hefyd gyda theml hynafol mewn llwyn sanctaidd yn Rhufain ei hun ac roedd hi'n chwarae rhan bwysig mewn dathliadau priodas.[2]
Ei gŵyl fawr oedd y Matronalia, yr enwocaf o wyliau'r duwiau a duwiesau yn y Rhufain hynafol, a ddethlid ar y 1af o Fawrth.[2]
Roedd hi'n cael ei haddoli fel Iuno Sospita ('Yr Iachawdwres') hefyd, am ei bod yn amddiffyn a gwarchod pawb. Roedd y Sabiniaid yn ei haddoli mewn agwedd fwy rhyfelgar, sef Iuno Curitis.[2]