Enghraifft o'r canlynol | math o lywodraeth |
---|---|
Math | llywodraeth filwrol, cynulliad |
Llywodraeth a arweinir gan bwyllgor o arweinwyr milwrol yw jwnta milwrol[1] (ceir y sillafiad junta hefyd yn Gymraeg,[2] a gellir ynganu'r "j" un ai gan ddilyn patrwm y Sbaeneg, /x/ fel "ch" Gymraeg, ai gan ddilyn patrwm y Saesneg gyda /dʒ/). Mae'r gair junta yn dod o'r Sbaeneg a'i ystyr yw "cyfarfod" neu "bwyllgor" ac mae'n tarddu o'r "junta" cenedlaethol a lleol a drefnwyd fel rhan o wrthwynebiad Sbaen i ymosodiad Napoleon ar Sbaen ym 1808.[3] Defnyddir y term bellach i gyfeirio at ffurf awdurdodaidd ar lywodraeth a nodweddir gan unbennaeth filwrol oligarchaidd.[4]
Daw jwnta i rym yn aml o ganlyniad i coup d'état.[3] Gall y jwnta naill ai gymryd pŵer yn ffurfiol fel corff llywodraethu'r genedl, gyda'r pŵer i reoli trwy archddyfarniad, neu gall ddefnyddio pŵer trwy arfer rheolaeth gyfrwymol (ond anffurfiol) dros lywodraeth sy'n sifil mewn enw.[5]
Dydy'r gair "junta" o'i hun yn Sbaeneg, ddim yn golygu grym milwrol. Gall ddynodi dim mwy na "chyfarfod" neu gorff sy'n cymryd penderfyniadau.[6]