Kamala Harris

Kamala Harris
Portread swyddogol, 2021
49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
Deiliad
Cychwyn y swydd
20 Ionawr 2021
ArlywyddJoe Biden
Rhagflaenwyd ganMike Pence
Seneddwr yr Unol Daleithiau
dros California
Yn ei swydd
3 Ionawr 2017 – 18 Ionawr 2021
Rhagflaenwyd ganBarbara Boxer
Dilynwyd ganAlex Padilla
32eg Twrnai Cyffredinol o California
Yn ei swydd
3 Ionawr 2011 – 3 Ionawr 2017
LlywodraethwrJerry Brown
Rhagflaenwyd ganJerry Brown
Dilynwyd ganXavier Becerra
27eg Atwrnai Dosbarth o San Francisco
Yn ei swydd
8 Ionawr 2004 – 3 Ionawr 2011
Rhagflaenwyd ganTerence Hallinan
Dilynwyd ganGeorge Gascón
Manylion personol
GanwydKamala Devi Harris
(1964-10-20) 20 Hydref 1964 (59 oed)
Oakland, California, UDA
Plaid wleidyddolDemocratwr
PriodDoug Emhoff (pr. 2014)
Llofnod

Twrnai, gwleidydd Americanaidd a 49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Kamala Devi Harris (ganed 20 Hydref 1964). Hi yw'r Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal a'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.

Ganed Harris yn Oakland, Califfornia, a graddiodd o Brifysgol Howard a Phrifysgol California, Coleg y Gyfraith Hastings.

Rhwng 2017 a 2021 roedd hi'n cynrychioli California fel is-seneddwr yr Unol Daleithiau. Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, bu gynt yn 27ain Twrnai Dosbarth San Francisco rhwng 2004 a 2011 a 32ain Twrnai Cyffredinol California rhwng 2011 a 2017. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau 2016 gan ddod yn yr ail fenyw Americanaidd Affricanaidd a'r gyntaf o gefndir Dde Asia Americanaidd i wasanaethu yn Senedd yr Unol Daleithiau.[1]

  1. "My Story | U.S. Senator Kamala Harris of California". www.harris.senate.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-14. Cyrchwyd 2020-08-03.

Developed by StudentB