Katherine Waterston | |
---|---|
Ganwyd | Katherine Boyer Waterston 3 Mawrth 1980 Westminster |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Tad | Sam Waterston |
Mam | Lynn Louisa Woodruff |
Mae Katherine Boyer Waterston (ganed 3 Mawrth 1980)[1] yn actores Americanaidd. Ymddangosodd yn ei ffilm sinema gyntaf yn Michael Clayton (2007). Aeth yn ei blaen i gael rhannau cefnogol mewn ffilmiau gan gynnwys Robot & Frank, Being Flynn (y ddwy yn 2012) a The Disappearance of Eleanor Rigby: Her (2013) cyn iddi ddod i amlygrwydd am ei pherfformiad fel Shasta Fay Hepworth yn Inherent Vice (2014) gan Paul Thomas Anderson. Yn 2015, portreadodd Chrisann Brennan yn Steve Jobs. Cafodd rôl yn serennu fel Tina Goldstein yn y ffilm ddeilliedig Harry Potter, Fantastic Beasts and Where to Find Them (2016), rôl a ddychwelodd ati yn y ffilm ddilynol yn 2018. Mae rolau ffilm eraill yn cynnwys Alien: Covenant (2017) Ridley Scott, Logan Lucky (2017) Steven Soderbergh a Mid90s Jonah Hill.
Ganwyd Waterston yn Westminster, Llundain yn ferch i rieni Americanaidd, Lynn Louisa (yn gynt Woodruff), cyn-fodel, a Sam Waterston, actor a adnabyddir orau am ei rôl fel Jack McCoy yn y ddrama deledu Law & Order.