Keith Best | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1949 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Roedd Keith Lander Best (ganed 10 Mehefin 1949) yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ynys Môn o 1979 hyd 1987.
Ganed Best yn Brighton, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Brighton a Coleg Keble, Rhydychen cyn mynd yn fargyfreithiwr.
Enillodd sedd Ynys Môn, oedd wedi ei dal gan Cledwyn Hughes dros y Blaid Lafur cyn hynny. Gorfodwyd ef i ymddiswyddo yn 1987, pan erlynwyd ef ar gyhuddiad o dwyll. Roedd grŵp BT yn cael ei breifateiddio gan y llywodraeth, ac roedd gan unrhyw aelod o'r cyhoedd hawl i wneud cais am nifer cyfyngedig o gyfranddaliadau. Cyhuddid Best o fod wedi gwneud sawl cais am gyfranddaliadau, gan ddefnyddio mân amrywiadau ar ei enw ei hun. Cafwyd ef yn euog yn y llys, ac ar 30 Medi 1987, dedfrydwyd ef i bedwar mis o garchar a dirwy o £3,000. Ar 5 Hydref, diddymodd y Llys Apêl y ddedfryd o garchar, ond cynddodd y ddirwy i £4,500.
Olynwyd ef fel Aelod Seneddol Môn gan Ieuan Wyn Jones, Plaid Cymru. Yn 2000, ceisiodd Best gael ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Môn eto, ond methodd. Yn 1993 daeth yn brif weithredwr y Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudiad.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Cledwyn Hughes |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1979 – 1987 |
Olynydd: Ieuan Wyn Jones |