Kim Jong-il

Kim Jong-il
GanwydЮрий Ирсенович Ким Edit this on Wikidata
16 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Vyatskoye, Ussuriysk Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 2011 Edit this on Wikidata
P'yŏngyang Edit this on Wikidata
Man preswylRyongsong Residence Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGogledd Corea Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kim Il-sung University
  • Prifysgol Malta
  • Mangyongdae Revolutionary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Supreme People's Assembly, Ysgrifennydd Cyffredinol, President of the State Affairs Commission, Arweinydd Goruchaf Gogledd Corea, Eternal leaders of North Korea Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gweithwyr Corea Edit this on Wikidata
TadKim Il-sung Edit this on Wikidata
MamKim Jong-suk Edit this on Wikidata
PriodKim Young-sook, Kim Ok, Ko Yong-hui, Song Hye-rim Edit this on Wikidata
PartnerSong Hye-rim, Ko Yong-hui, Kim Ok Edit this on Wikidata
PlantKim Jong-nam, Kim Sul-song, Kim Jong-chul, Kim Jong-un, Kim Yo-jong, Kim Chun-song Edit this on Wikidata
LlinachKim family Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Jiwbili "50 Mlynedd Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbili "60 Mlynedd o Fuddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbili "65 Mlynedd o Fuddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Hero of the Republic, Order of Kim Il Sung, Order of the National Flag, Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Order of the Republic, Medal Jiwbilî "40 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Grand Cross of the National Order of Mali, National Order of Niger, Order of Independence, Royal Order of Cambodia, Order of the Nile, National Order of the Leopard, National Order of the Lion of Senegal, Orden de la Antiquísima Welwitschia Mirabilis, Order of Merit, Order of Freedom and Independence, 1st class, Order of Freedom and Independence, 2nd class, Order of Freedom and Independence, National Order of Mali Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Kim Jong-il (dyddiad geni swyddogol - 16 Chwefror, 194117 Rhagfyr 2011; dyddiad geni anwswyddogol - 16 Chwefror 1941) yn arweinydd unbenaethol Gogledd Corea. Yn swyddogol, fe'i ganwyd yn Siberia, yn yr hen Undeb Sofietaidd lle bu ei dad yn alltud. Caiff ei enw ei sgwennu hefyd fel Kim Jong Il, a'i enw personol oedd Yuri Irsenovich Kim. Mae'r fersiwn swyddogol yn datgan iddo gael ei eni ar gopa Mynydd Baekdu pan ymddangosodd enfys ddwbwl.

Mab ac olynydd y cyn arweinydd Kim Il-sung ydoedd. Ychydig sy'n bysbys am ei fywyd preifat gan fod llywodraeth y wlad mor gyfrinachol. Fel mab ac "etifedd" yr arweinyddiaeth ymddengys iddo gael mabolaeth breintiedig a chafodd enw am fod yn dipyn o dderyn (neu "playboy") a wisgai sgidiau platfform er mwyn edrych yn dalach. Galwyd Jong-il "Yr Arweinydd Annwyl" yn swyddogol ("Yr Arweinydd Mawr" oedd ei dad). Dywedir ei fod yn 5'2", yn yfed cognac Hennessey ac yn perchen 20,000 o ffilmiau; ymhlith ei ffefrynnau roedd ffilmiau James Bond.

Wedi i'w dad farw yn 1994 llwyddodd Jong-il i aros mewn grym ac yn 1997 cafodd ei enwi'n ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Gogledd Corea. Erbyn hynny roedd y wlad yn fwy ynysig nag erioed, yr economi yn llanast a'r werin yn marw o newyn wrth eu miloedd. Roedd yn weithiwr caled a gwell oedd ganddo weithio drwy'r nos ar ei liwt ei hun, yn hytrach na chael cyfarfodydd di-ben-draw drwy'r dydd.

Blaenoriaeth Jong-il drwy ei yrfa oedd datblygu arfau niwclear gan ennill dig gweddill y byd. Dywedodd George W. Bush yn 2002 fod Gogledd Corea yn rhan o Echel y Fall (gydag Iran ac Irac).

Bu farw o drawiad calon yn 69 oed, ar 17 Rhagfyr 2011 ar ganol taith trên.[1] Yn dilyn ei farwolaeth cyhoeddodd teledu Corea mai ei fab ieuengaf Kim Jong-un fyddai'r olynydd. Ymateb Japan oedd cyhoeddi stad o argyfwng.

  1. Arweinydd Gogledd Corea yn marw, Golwg360

Developed by StudentB