Arwyddair | A city which hath foundations |
---|---|
Math | dinas, dinas fawr |
Enwyd ar ôl | Kingston upon Thames |
Poblogaeth | 580,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey County |
Gwlad | Jamaica |
Arwynebedd | 480,000,000 m² |
Uwch y môr | 9 ±1 metr |
Gerllaw | Môr y Caribî |
Yn ffinio gyda | Portmore |
Cyfesurynnau | 17.9714°N 76.7931°W |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Kingston |
Prifddinas a dinas fwyaf Jamaica yw Kingston. Fe'i lleolir ar arfordir de-ddwyrain yr ynys ym Môr y Caribî. Mae'n wynebu ar harbwr naturiol a amddiffynir gan y Palisadoes, rhimyn hir o dywod sy'n cysylltu Port Royal a Maes Awyr Rhyngwladol Norman Manley i weddill yr ynys. In Hemisffer y Gorllewin, Kingston yw'r ddinas Saesneg ei hiaith fwyaf i'r de o'r Unol Daleithiau.
Rhennir canol Kingston yn ddwy ran wrthgyferbyniol : y Downtown hanesyddol ond aflonydd, a New Kingston, lleoliad atyniad mwyaf yr ynys, sef Amgueddfa Bob Marley (ar safle ei hen gartref). Mae sawl seren reggae arall, yn cynnwys Buju Banton, Sean Paul, Bounty Killer, a Beenie Man, yn hannu o Kingston hefyd. Mae atyniadau eraill yn cynnwys traethau Hellshire a Lime Cay, Amgueddfa Genedlaethol Jamaica, adfeilion Port Royal, a Devon House, hen fansiwn a'i barc cysylltiedig a fu'n eiddo i filiwnydd croen du cyntaf Jamaica.
Yn ogystal â Maes Awyr Rhynwladol Norman Manley, gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Tinson Pen.