Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Math | gŵyl ddiwylliannol, relay race |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1980 |
Yn cynnwys | Korrika 1980 |
Gwladwriaeth | Gwlad y Basg |
Gwefan | http://www.korrika.eus/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika (Rhedeg) a gynhelir pob ail flwyddyn ers 1980 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg.
Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan, gan redeg yn eu tro rhannau'r marathon trwy'r dydd a thrwy'r nos am 11 diwrnod dros Euskal Herria (Gwlad y Basg). Trefnir y rhediad gan fudiad AEK i godi arian ar gyfer eu canolfannau dysgu Basgeg ac ymgyrchoedd llythrennedd i oedolion.
Mae rhedwr ar flaen y Korrika yn dal yn uchel 'y tyst' sef pastwn pren, yn debyg i'r modd mae rhedwr Olympaidd yn dal y fflam. Mae pastwn 'y tyst' yn cael ei basio ymlaen i redwr nesaf pob cilomedr.
Wrth i'r Korrika cael ei rhedeg dydd a nos mae'n meddwl bod pastwn 'y tyst' yn mynd o law i law yn ddi-stop am 11 diwrnod.[1][2]
Mae arian yn cael ei godi trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.
Y tu mewn y pastwn mae neges gudd wedi'i ysgrifennu. Tynnir y neges a'i darllen ar ddiwedd y 2300 km fel uchafbwynt y seremoni derfynol.