Math | dinas fawr, sedd y llywodraeth, metropolis |
---|---|
Enwyd ar ôl | Battle of Ayacucho, Ein Harglwyddes, Brenhines Tangnefedd |
Poblogaeth | 2,867,504 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Luis Revilla |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | Caracas, Mérida, São Paulo, Arica, Calama, Hannover, Zagreb, Washington, Bonn, Moscfa, Dalian, Bolzano, Ensenada, Denver, Cuzco, Coro, Vaduz, Taipei, Zaragoza, Madrid, Puno, Dinas Mecsico, Santiago de Chile, Rio de Janeiro, Santo Domingo, Arequipa, Armenia, Asunción, Bogotá, Canelones, Buenos Aires, Bwrdeistref Stockholm, Iquique, La Habana, Llundain, Montevideo, Moquegua, Dinas Efrog Newydd, Quito, Quetzaltenango |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Merco Cities Network |
Sir | La Paz Department |
Gwlad | Bolifia |
Arwynebedd | 472 ±1 km² |
Uwch y môr | 3,640 metr |
Cyfesurynnau | 16.4958°S 68.1333°W |
Cod post | 0201–0220 |
Pennaeth y Llywodraeth | Luis Revilla |
Sefydlwydwyd gan | Alonso de Mendoza |
Prifddinas weinyddol Bolifia yn Ne America yw La Paz (sy'n golygu: Yr Heddwch), neu yn llawn Nuestra Señora de La Paz, Chuqi Yapu (Aymara: Chuqi Yapu). Mae hefyd yn brifddinas Talaith La Paz. Yn 2001 roedd poblogaeth y ddinas yn 789,585, a phoblogaeth yr ardal ddinesig, sy'n cynnwys dinasoedd El Alto a Viacha, dros 1.6 miliwn. Sefydlwyd y ddinas yn 1548 gan y conquistadores Sbaenig dan Alonso de Mendoza, ar safle sefydliad brodorol, Laja. Symudwyd y ddinas i'w lleoliad presennol yn nyffryn Chuquiago Marka yn ddiweddarach. Saif yng ngorllewin y wlad, yn yr Andes, 3,600 medr uwch lefel y môr. La Paz yw'r brifddinas genedlaethol uchaf yn y byd, ac yma y ceir cwrs golff a stadiwm pêldroed uchaf y byd, ymhlith pethau eraill.