Lance Armstrong

Lance Armstrong
GanwydLance Edward Gunderson Edit this on Wikidata
18 Medi 1971 Edit this on Wikidata
Plano Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • General William J. Palmer High School
  • Plano East Senior High School
  • Coelg Austin Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, hunangofiannydd, podcastiwr, triathlete Edit this on Wikidata
Taldra177 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau71 cilogram Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadEddie Charles Gunderson Edit this on Wikidata
MamLinda Gayle Mooneyham Edit this on Wikidata
PartnerTory Burch Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Chevalier de la Légion d'Honneur, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Vélo d'Or Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lancearmstrong.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auMotorola, Cofidis, Discovery Channel, Astana, RadioShack Edit this on Wikidata

Cyn seiclwr proffesiynol o'r Unol Daleithiau yw Lance Armstrong (ganwyd Lance Edward Gunderson, 18 Medi 1971). Enillodd y Tour de France saith gwaith, bob blwyddyn rhwng 1999 a 2005.

Ar ddechrau ei yrfa broffesiynol, enillodd Armstrong Bencampwriaeth Seiclo Heol UCI y Byd ym 1993 a nifer o rasys bychain eraill. Yn Hydref 1996, cafodd ddeiagnosis o gancr y ceilliau gyda thyfiant a oedd wedi lledu i'wymennydd a'i ysgyfaint. Yn wreiddiol, roedd ei siawns o oroesi'n fach iawn. Derbyniodd driniaethau ar ei ymennydd a'i geilliau a llawer o gemotherapi. Roedd yn sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Lance Armstrong sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o gancr.

Ar ôl honiadau cyson bod ei lwyddiant wedi dibynnu ar ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon daeth ymchwiliad yn 2012 i'r casgliad bod Armstrong wedi defnyddio cyffuriau i wella ei berfformiad drwy gydol ei yrfa. O ganlyniad, collodd ei deitlau Tour de France a medal Olympaidd a chafodd ei wahardd am oes o bob digwyddiad seiclo.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Developed by StudentB