Leonardo da Vinci | |
---|---|
Ganwyd | Leonardo di ser Piero da Vinci 15 Ebrill 1452 Anchiano |
Bu farw | 2 Mai 1519 Clos Lucé |
Man preswyl | Fenis, Fflorens, Rhufain, Fflorens, Milan |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
Galwedigaeth | arlunydd, peiriannydd, seryddwr, athronydd, anatomydd, mathemategydd, cerflunydd, polymath, pensaer, peiriannydd sifil, diplomydd, dyfeisiwr, cyfansoddwr, ffisegydd, ffisiolegydd, botanegydd, cemegydd, swolegydd, cartwnydd dychanol, gwyddonydd, drafftsmon, cynllunydd, llenor, artist |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Addoliad y Doethion, Morwyn Fair y Creigiau, Mona Lisa, Y Swper Olaf, Y Feinir â'r Carlwm, Dyn Vitruvius, Cyfarchiad Mair, Sant Sierôm yn yr Anialwch, Y Forwyn a'r Plentyn gyda'r Santes Ann, Ioan Fedyddiwr, sgriw awyr Leonardo, Portrait of Isabella d'Este, La Scapigliata, Salvator Mundi, y Cyfarchiad |
Arddull | portread, paentiadau crefyddol, celfyddyd grefyddol |
Mudiad | yr Uchel Ddadeni, y Dadeni Dysg |
Tad | Ser Piero da Vinci |
Mam | Caterina di Meo Lippi |
llofnod | |
Roedd Leonardo di ser Piero da Vinci (15 Ebrill 1452 – 2 Mai 1519) yn bolymath Eidalaidd a oedd yn weithgar fel peintiwr, drafftiwr, peiriannydd, gwyddonydd, damcaniaethwr, cerflunydd a phensaer.[1] Tra bod ei enwogrwydd ar y cychwyn yn dibynnu ar ei waith fel peintiwr, daeth hefyd yn adnabyddus am ei lyfrau nodiadau, lle gwnaeth luniadau a nodiadau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys anatomeg, seryddiaeth, botaneg, cartograffeg, paentio, a phaleontoleg. Ystyrir yn eang bod Leonardo yn athrylith a oedd yn crynhoi holl ddelfrydau Dyneiddiaeth y Dadeni,[2] a dylanwadodd yn fawr ar genedlaethau o artistiaid hyd at y y presennol.[1][2]
Mab llwyn a pherth i notari llwyddiannus a gwraig o ddosbarth is yn ardal Vinci oedd Leonardo, a chafodd ei addysg yn Fflorens gan yr arlunydd a'r cerflunydd Eidalaidd Andrea del Verrocchio. Dechreuodd ei yrfa yn y ddinas, ond yna treuliodd lawer o amser yng ngwasanaeth Ludovico Sforza ym Milan. Yn ddiweddarach bu'n gweithio am gyfnod byr yn Rhufain, tra'n denu nifer fawr o ddynwaredwyr a myfyrwyr ato. Ar wahoddiad Francis I, treuliodd ei dair blynedd olaf yn Ffrainc, ac yno y bu farw yn 1519. Ers ei farwolaeth, ni fu amser lle mae ei gyflawniadau, ei ddiddordebau amrywiol, ei fywyd personol, a'i feddwl empirig wedi methu ag ysgogi diddordeb ac edmygedd.[1][2].
Mae Leonardo yn cael ei gyfri'n un o'r arlunwyr mwyaf yn hanes celf ac yn aml yn cael ei gydnabod fel sylfaenydd Anterth y Dadeni (Hochrenaissance).[1] Er bod ganddo lawer o weithiau coll a llai na 25 o weithiau mawr y priodolir iddo — gan gynnwys nifer o weithiau anorffenedig — creodd rai o'r paentiadau mwyaf dylanwadol yng nghelf y Gorllewin.[1] Ei magnum opus, y Mona Lisa, yw ei waith mwyaf adnabyddus ac fe'i hystyrir yn aml fel paentiad enwocaf y byd. Y Swper Olaf yw'r paentiad crefyddol sydd wedi'i atgynhyrchu fwyaf erioed ac mae ei ddarlun Vitruvian Man hefyd yn cael ei ystyried yn eicon diwylliannol. Yn 2017, gwerthwyd Salvator Mundi, a briodolwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol i Leonardo,[3] mewn arwerthiant am US$450.3 miliwn, gan osod record newydd ar gyfer y paentiad drutaf a werthwyd erioed mewn arwerthiant cyhoeddus.
Caiff ei adnabod am ei ddyfeisgarwch technolegol, gan gynnwys peiriannau hedfan, cerbyd ymladd milwrol, pŵer solar crynodedig, peiriant cymharebu y gellid ei ddefnyddio i gyfrifo,[4][5] a'i gynllun o long gyda gwaelod dwbwl. Cymharol ychydig o'i ddyluniadau a drowyd yn ddyfeisiadau real yn ystod ei oes, gan nad oedd meteleg a pheirianneg wedi'u datblygu digon yn ystod ei oes. Fodd bynnag, daeth rhai o'i ddyfeisiadau llai i fyd gweithgynhyrchu heb eu cyhoeddi, megis weindiwr bobin otomatig a pheiriant i brofi cryfder gwifren. Gwnaeth ddarganfyddiadau sylweddol mewn anatomeg, peirianneg sifil, hydrodynameg, daeareg, opteg, a thriboleg, ond ni chyhoeddodd ei ganfyddiadau ac ni chawsant fawr ddim dylanwad uniongyrchol ar wyddoniaeth y blynyddoedd dilynol.[6]
Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.