Delwedd:Symptoms of leukemia.png, Symptoms of leukemia-hy.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | hematologic cancer, canser mêr yr esgyrn, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Hematoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o afiechydon cansar y gwaed ydy liwcemia (Groeg: λευκός leukemia, (neu lwcimia) sef "gwyn" fel y gair 'lleu'ad neu 'go-leu' a αίμα yn golygu "gwaed" h.y. "gwaed gwyn"). Mae'n cychwyn ym mêr yr esgyrn, lle mae'r gwaed yn cael ei gynhyrchu. Mewn claf sy'n dioddef o lwcimia, cynhyrchir llawer mwy o gelloed gwyn (neu leukocytes) nag arfer[1]. Nid yw'r rhain wedi datblygu'n llawn, a gelwir nhw'n 'blasts'.[2] Mae'r term "liwcemia" yn derm eang am sawl math o gansar y gwaed. Mae'r symtomau'n cynnwys cleisio'r corff, blinder a lleihad yn ynni'r claf, a'r risg o ddal heintiau.[2] Mae'r symtomau hyn yn digwydd oherwydd gormod o gelloedd gwyn, sydd wedi cymryd drosodd oddi wrth y celloedd gwaed eraill e.e. y celloedd coch sy'n cludo ocsigen a'r platennau, sy'n atal gwaed rhag llifo allan o'r corff.[2] Gwneir diagnosis fel arfer drwy brawf gwaed a biopsi lle tynnir ychydig o fêr o'r corff a'i astudio drwy feicrosgrop.[2]