Math | tref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Teilo |
Poblogaeth | 1,787 |
Gefeilldref/i | Konk-Leon |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8841°N 3.9992°W |
Cod SYG | W04000513 |
Cod OS | SN625225 |
Cod post | SA19 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref a chymuned yng nghanol Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandeilo. Fe'i henwir ar ôl yr hen eglwys i Sant Teilo. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn cael ei hadnabod fel Llandeilo Fawr a gorweddai yng nghwmwd Maenor Deilo, heb fod ymhell o safle Castell Dinefwr, sedd frenhinol tywysogion y Deheubarth. Mae Gorsaf reilffordd Llandeilo ar linell Rheilffordd Calon Cymru.
Cynrychiolir Llandeilo yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]