Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,510, 2,373 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,168.72 ha |
Cyfesurynnau | 51.6721°N 3.9583°W |
Cod SYG | W04000967 |
Cod OS | SS646988 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Pentref a chymuned yn ninas a sir Abertawe yw Llangyfelach ( bawd ). Saif tua pedair milltir i'r gogledd o ganol dinas Abertawe, ac i'r gorllewin o Dreforys. Mae traffordd yr M4 ychydig i'r gogledd.
Ceir yno ysgol gynradd, amlosgfa a thafarn. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Dewi Sant a Sant Cyfelach. Credir bod clas Celtaidd wedi bod ar y safle; mae tŵr yr eglwys bresennol, sydd ar wahan i'r eglwys ei hun, yn dyddio o'r 12g. Ar un adeg roedd yr eglwys yn un o ganolfannau pwysicaf cantref Eginog. Tu mewn i'r eglwys mae Croes Llangyfelach, Croes Geltaidd yn dyddio o'r 9g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]