Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia |
---|---|
Prifddinas | Lleida City |
Poblogaeth | 143,094 |
Pennaeth llywodraeth | Fèlix Larrosa i Piqué |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Anastasi de Lleida |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Segrià |
Gwlad | Catalwnia Sbaen |
Arwynebedd | 212.3 km² |
Uwch y môr | 155 ±1 metr |
Gerllaw | Segre, Noguerola, Canal d'Urgell, Canal de Seròs, canal auxiliar d'Urgell, Canal de Balaguer, Canal d'Aragó i Catalunya |
Yn ffinio gyda | Almacelles, Torrefarrera, Alpicat, Torre-serona, Corbins, Alcoletge, Bell-lloc d'Urgell, Els Alamús, Torregrossa, Artesa de Lleida, Aspa, Alfés, Albatàrrec, Montoliu de Lleida, Sudanell, Alcarràs, Gimenells i el Pla de la Font, Tamarite de Litera |
Cyfesurynnau | 41.6167°N 0.6333°E |
Cod post | 25001–25008 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Lleida |
Pennaeth y Llywodraeth | Fèlix Larrosa i Piqué |
Lleida (Sbaeneg: Lérida, ond yr enw Catalaneg yw'r ffurf swyddogol) yw prifddinas Talaith Lleida, un o bedair talaith Catalwnia, Sbaen. Yn cynnwys srfydliadau cyfagos Raimat a Sucs, roedd gan y ddinas boblogaeth o 124,709 yn 2005.
Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, gelwid y ddinas yn Iltrida neu Ilerda, a hi oedd prifddinas yr Ilergetes, llwyth Iberaidd. Wedi'r goncwest Rufeinig, daeth yn rhan o dalaith Hispania Tarraconensis. Roedd yn ddinas lewyrchus yn y cyfnod Rhufeinig, ac yn bathu ei harian ei hun.
Roedd yn safle bwysig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, gan ei bod yn rhan o amddiffynfeydd Barcelona. Bomiwyd y ddinas yn drwm gan luoedd Francisco Franco a'i gynorthwywyr Almaenaidd, y Legion Kondor, yn 1937 a 1938.