Llew | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Felidae |
Genws: | Panthera |
Rhywogaeth: | P. leo |
Enw deuenwol | |
Panthera leo (Linnaeus, 1758) |
Mae'r llew (Panthera leo) yn un o bedwar o'r cathod mawr yn y genws Panthera, ac mae'n perthyn i'r teulu Felidae (cathod). Gyda rhai gwrywod yn rhagori 250 kg (550 lb) mewn pwysau, mae'r llew yn yr ail gath fwyaf sydd yn fyw heddiw ar y ôl y teigr.
Tan y Pleistosen hwyr, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, y llew oedd yr ail famal daearol gyda'r amrediad mwyaf, tu ôl i bobl. Gellir eu darganfod drwy'r rhan fwyaf o Affrica, llawer o Ewrasia, o orllewin Ewrop i'r India, ac yn yr Americas o'r Yukon i Beriw.
Os ydent yn goroesi'r peryglon o fywyd cynnar, gellir llewesau mewn cynhefinoedd diogel, fel parciau cenedlaethol, gyrraedd oedran o 12- 14 mlynedd, tra fod gwrywod yn anaml yn cyrraedd 8 mlynedd. Er hyn mae yno gofnodion o llewesau yn byw hyd at 20 mlwydd oed yn y gwyllt. Mae llewod caeth yn aml yn cyrraedd 20 mlwydd oed neu fwy.
Cynhefin nodweddiadol y llew yw safana a glaswelltiroedd, ond maent wedi eu darganfod mewn tiroedd prysglwyn ac mewn coedwigoedd.
Yn anghyffredin i gathod eraill, mae'r llew yn gath cymdeithasol iawn, wrth iddynt fyw mewn grwpiau teuluol sydd yn cynnwys grwp o lewesau perthynol a'u cenau, ac nifer bach o wrywod. Bydd y llewesau yn y grwpiau yma yn hela gyda'i gilydd, eu prif ysglyfaeth yw mamaliaid carnol. Mae'r llew yn ysglyfaethwr apig, serch hyn maent hefyd yn carthysu pan mae ganddynt y cyfle i wneud.
Mae'r llew yn rywogaeth bregus sydd wedi gweld y boblogaeth yn disgyn rhwng 30 a 50 y cant drost yr ugain mlynedd diwethaf. Er nid yw'r achos yn glir, mae colled cynhefin yn ô gystal â gwrthdaro gyda pobl yn cyfrannu at y colled mewn niferoedd.