Mae llid y coluddyn crog (neu pendics ar lafar gwlad) yn gyflwr sy'n digwydd oherwydd llid o'r coluddyn crog. Fe'i ddosberthir yn "frys meddygol" ac fel arfer tynnir y coluddyn crog llidus, naill ai trwy laparotomi neu laparosgopi. Heb driniaeth, mae nifer y marwolaethau'n uchel, fel arfer oherwydd llid y ffedog neu beritonitis a sioc.[1] Disgrifiodd Reginald Fitz lid y coluddyn crog llym a chronig gyntaf ym 1886,[2] ac fe'i ystyrir yn achos cyffredin o boen abdomenol llym difrifol dros y byd i gyd. Gwelir math nad ydyw'n llym sy'n a wneir diagnosis cywir arno lid y coluddyn crog yn "llid y coluddyn crog trwst".
Defnyddir y term "ffug-lid y coluddyn crog" er mwyn disgrifio cyflwr sy'n cyffelybu llid y coluddyn crog.[3] Gellir ei gymharu ag Yersinia enterocolitica.[4]