Math | metropolis, canolfan ariannol, dinas, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, national capital, lle |
---|---|
Poblogaeth | 8,799,728 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Sadiq Khan |
Gefeilldref/i | Berlin, Mumbai, Dinas Efrog Newydd, Alger, Sofia, Moscfa, Tokyo, Beijing, Karachi, Zagreb, Tehran, Arequipa, Delhi, Bogotá, Johannesburg, Kuala Lumpur, Oslo, Sylhet, Shanghai, Baku, Buenos Aires, Istanbul, Los Angeles, Podgorica, Delhi Newydd, Phnom Penh, Jakarta, Amsterdam, Bwcarést, Santo Domingo, La Paz, Dinas Mecsico |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,572 ±1 km² |
Uwch y môr | 4 metr |
Gerllaw | Afon Tafwys, Camlas Grand Union |
Yn ffinio gyda | Essex, Caint, Sussex, Surrey, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Hertford |
Cyfesurynnau | 51.5072°N 0.1275°W |
Cod post | E, EC, N, NW, SE, SW, W, WC, BR, CM, CR, DA, EN, HA, IG, KT, RM, SM, TN, TW, UB, WD |
GB-LND | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Llundain |
Pennaeth y Llywodraeth | Sadiq Khan |
Prifddinas y Deyrnas Unedig a phrifddinas Lloegr yw Llundain (Saesneg: London). Saif y ddinas ar lan afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 8,799,728 (2021)[1]. Ceir 130 o filltiroedd rhwng Llundain a Chaerdydd.
Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion Celtaidd a Rhufeinig, ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin 'Londinium, o darddiad Celtaidd. Yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae (12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg Cyfranc Lludd a Llefelys, Lludd fab Beli a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw "Caer Ludd".[2]
Mae pencadlys a phrif faes rygbi Lloegr yn Twickenham, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-droed. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn Wembley ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.[3]