Math | grŵp ethnig, grŵp, polity |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymdeithas o bobl neu grŵp ceraint sy'n honni disgyn o un hynafiad cyffredin ac sydd ag arferion, defodau a sefydliadau arbennig yn gyffredin iddynt yw llwyth.[1] Yn aml casgliad o glaniau neu fandiau yw llwyth sy'n rhannu iaith, diwylliant, ac ideoleg, ac sy'n deyrngar i arweinyddiaeth wleidyddol sy'n ganoledig i raddau.[2][3]
Mae'r llwyth yn drefn gymdeithasol hynafol iawn, a gall fod yn amhendant ac yn ystwyth. Yn ystod oes trefedigaethrwydd, defnyddiodd y gwladychwyr ddiffiniadau a chyfundrefnau oedd yn seiliedig ar lwythau wrth weinyddu'r pobloedd hyn, er fod y fath grwpiau yn aml yn newid ac yn datblygu.[4] Mae llwythau'n dal i fodoli heddiw mewn rhai lleoedd yn y byd, naill ai fel grwpiau o bobl yn byw ar wahân, er enghraifft llwythau brodorol rhannau o Dde America, neu o fewn cymdeithas fodern, fel yn y byd Arabaidd cyfoes lle mae aelodaeth o'r llwyth yn dal i fod yn bwysig iawn. Gall llwyth gynnwys nifer o gymunedau llai, megis pentrefi, neu fod yn is-grŵp i'r genedl.
Yng nghanol y 19g, datblygodd ddamcaniaeth anthropolegol o esblygiad unllinellog, oedd yn honni bod y band, y llwyth, y benaduriaeth a'r wladwriaeth i gyd yn gamau mewn esblygiad diwylliannol dynoliaeth. Mae'r syniadaeth hon wedi ei thanseilio erbyn heddiw, ond parheir i ddefnyddio'r term "llwyth" i ddisgrifio pobl sy'n rhannu enw a thiriogaeth ac sy'n cydweithio'n economaidd ac yn ddiwylliannol.[3]