Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA |
Sir | Ontario, Michigan, Pennsylvania, Efrog Newydd, Lake County |
Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 25,744 km² |
Uwch y môr | 173 metr |
Cyfesurynnau | 42.25°N 80.9997°W |
Dalgylch | 58,800 cilometr sgwâr |
Hyd | 388 cilometr |
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Erie (Saesneg: Lake Erie). Ef yw'r pedwerydd o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, a'r basaf o'r pump. Enwyd y llyn ar ôl y bobl frodorol, llwyth yr Erie. Saif Llyn Erie ar y ffîn rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, yn y de ar daleithiau Ohio, Pennsylvania ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, ac yn y gorllewin ar dalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 25,745 km2 a'i hyd yn 388 km.