Y Beibl |
---|
Y Testament Newydd |
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid (talfyriad: Rhuf.), a gyfeirir ato'n amlach fel Rhufeiniaid, yw'r chweched llyfr yn y Testament Newydd. Cytuna ysgolheigion Beiblaidd y cafodd ei ysgrifennu gan yr Apostol Paul er mwyn esbonio'r iachawdwriaeth a geir trwy Efengyl Iesu Grist. Dyma lythyr hwyaf Paul o bell ffordd.