Llywelyn Fawr | |
---|---|
Ganwyd | Llywelyn mab Iorwerth c. 1173 Dolwyddelan |
Bu farw | 11 Ebrill 1240 Abaty Aberconwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Iorwerth Drwyndwn |
Mam | Marared ferch Madog |
Priod | y Dywysoges Siwan |
Partner | Tangwystl Goch |
Plant | Gruffudd ap Llywelyn Fawr, Elen ferch Llywelyn, Gwladus Ddu, Angharad ferch Llywelyn, Dafydd ap Llywelyn, Tegwared y Bais Wen, Susanna ferch Llywelyn, Margred ferch Llywelyn |
Llinach | teulu brenhinol Gwynedd |
Llywelyn ap Iorwerth (c.1173 – 11 Ebrill 1240), neu Llywelyn Fawr, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog Cymru. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 1240 roedd yn cael ei gydnabod (ac yn galw ei hun) yn Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri.
Roedd yn Dywysog Cymru, a rheolodd rhanfwyaf o Gymru. Roedd yn ŵyr i Owain Gwynedd, ac yn unig fab i Iorwerth Drwyndwn, sef mab cyfreithlon hynaf Owain Gwynedd,[1][2] tra'r oedd ei fam, Marged, yn ferch i Madog ap Maredudd o Bowys.[3] Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn ŵyr iddo drwy ei fab Gruffudd gyda Thangwystl.[2] Drwy gyfuniad o ryfela a diplomyddiaeth amlygodd ei hun fel un o lywodraethwyr mwyaf blaengar ac abl Cymru’r Oesoedd Canol. Yn ystod ei deyrnasiad brwydrodd yn ddygn ac ymgyrchu’n daer i wireddu ei weledigaeth yng Nghymru o greu tywysogaeth Gymreig.[2]
Yn ystod plentyndod Llywelyn, rheolwyd Gwynedd gan ei ddau ewythr, ac roeddent wedi rhannu’r deyrnas rhyngddynt, yn dilyn marwolaeth tad-cu Llywelyn, sef Owain Gwynedd, yn 1170. Bu’r blynyddoedd ar ôl 1170 yn gyfnod ansefydlog, gyda disgynyddion Owain yn brwydro i reoli. Roedd hawl Llywelyn i fod yn rheolwr cyfreithlon yn gadarn a dechreuodd ymgyrch i ennill pŵer pan oedd yn ifanc. Bu 1197 yn drobwynt pwysig. Daliodd Llywelyn ap Iorwerth ei ewythr Dafydd ab Owain a'i alltudio o Wynedd, meddiannodd y Berfeddwlad a chipiodd weddill Gwynedd yn 1200.[1]
Ef oedd prif reolwr Gwynedd erbyn 1201, a lluniodd gytundeb gyda Brenin Lloegr yn y flwyddyn honno. Yn y Deheubarth, manteisiodd Llywelyn ar y rhwygiadau a fu yn nheyrnas yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd rhwng ei feibion yn dilyn ei farwolaeth yn 1197. Rhannodd Llywelyn y tiroedd rhyngddynt a daeth Llywelyn yn uwch-arglwydd ar y Deheubarth.[4][5]
Parhaodd perthynas dda rhyngddo ef a’r Brenin John, Brenin Lloegr, am weddill y degawd hwnnw. Priododd Llywelyn ferch John, sef Siwan, yn 1205. Pan arestiwyd Gwenwynwyn ap Owain o Bowys gan John yn 1208, cymerodd Llywelyn y cyfle i feddiannu Powys. Ond yn 1210 gwaethygodd y berthynas rhwng Llywelyn a John ac oherwydd hynny penderfynodd John ymosod ar Wynedd yn 1211. Gorfodwyd Llywelyn i ofyn am delerau i geisio cymodi, a bu’n rhaid iddo ollwng ei afael ar ei holl diroedd i’r dwyrain o’r Afon Conwy, er iddo lwyddo i’w hadfeddiannu y flwyddyn ddilynol mewn cynghrair gyda thywysogion Cymreig eraill. Lluniodd gynghrair gyda’r barwniaid a oedd wedi gorfodi John i lofnodi'r Magna Carta yn 1215. Erbyn 1216, Llywelyn oedd y prif bŵer yng Nghymru, a chynhaliodd gyngor o reolwyr Cymreig yn Aberdyfi yn yr un flwyddyn, lle tyngwyd llw o ffyddlondeb iddo ef er mwyn dosbarthu tiroedd i’r tywysogion eraill.
Yn dilyn marwolaeth y Brenin John, llofnododd Llywelyn gytundeb gyda’i olynydd, Harri III, yn 1218. Roedd Cytundeb Caerwrangon yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr o hawliau Llywelyn yng Nghymru ac yn gadarnhad o’r hyn a gytunodd gyda thywysogion eraill Cymru yn Aberdyfi yn 1216. Bu’r pymtheg mlynedd nesaf yn gythryblus a chyfnewidiol i Llywelyn oherwydd bu mewn gwrthdaro cyson ag Arglwyddi’r Mers - yn eu plith, William Marshall, Iarll Penfro, a'i heriodd yn ne-orllewin Cymru yn 1223, a Hubert de Burgh a'i heriodd yn ne Powys yn 1228.[4][6]
Bu ei berthynas â’i dad-yng-nghyfraith, John, Brenin Lloegr yn anghyson, ac roedd y ffaith ei fod wedi llunio cynghreiriau gyda rhai o brif Arglwyddi’r Mers yn dangos mor anwadal oedd gwleidyddiaeth yr oes. Roedd Cytundeb Heddwch Middle yn 1234 yn datgan diwedd gyrfa filwrol Llywelyn, oherwydd estynnwyd cadoediad heddwch y cytundeb tan ddiwedd teyrnasiad Llywelyn. Sefydlogodd ei safle a’i awdurdod yng Nghymru tan ei farwolaeth yn 1240 ac olynwyd ef gan ei fab Dafydd ap Llywelyn. Pan alwodd ynghyd ei ddeiliaid yn Ystrad Fflur yn 1238 roedd hynny'n ddatganiad o ddymuniad Llywelyn bod ei benarglwyddiaeth ef fel Tywysog Cymru a’i syniad o greu tywysogaeth Cymru yn cael ei throsglwyddo i’w aer, Dafydd. Roedd yr arweinyddion oedd yn bresennol yn tyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd i sicrhau bod hynny'n cael ei wireddu yn y dyfodol.[2][7]