Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.