Math | ysgol ddrama |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.49056°N 0.21444°W |
Ysgol ddrama flaenllaw yng ngorllewin Llundain ydy London Academy of Music and Dramatic Art (LAMDA). Llywydd LAMDA yw Timothy West a'r pennaeth newydd yw Joanna Read[1], a olynodd Peter James. Dathlodd yr ysgol ddrama ei phenblwydd yn 150 oed yn 2011, sy'n golygu mai LAMDA yw'r ysgol ddrama hynaf yn y Deyrnas Unedig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 98% o raddedigion rheoli llwyfan a theatr technegol wedi cael swydd yn eu maes o fewn wythnosau o raddio. Mae'r ysgol wedi'i chofrestru fel cwmni o dan yr enw Lamda Ltd[2] ac fel elusen o dan ei enw masnachol London Academy of Music and Dramatic Art.[3] Mae yna gwmni cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau, LAMDA in America, Inc., a arferai gael ei alw'n The American Friends of LAMDA.[4]