Math | bwrdeistref Sbaen, cyrchfan i dwristiaid, dinas, national capital |
---|---|
Prifddinas | Madrid city |
Poblogaeth | 3,332,035 |
Pennaeth llywodraeth | José Luis Martínez-Almeida |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Buenos Aires, Abu Dhabi, Asunción, Beijing, Berlin, Bogotá, Bordeaux, Budapest, Caracas, Dinas Gwatemala, La Habana, La Paz, Lima, Lisbon, Managua, Manila, Dinas Mecsico, Montevideo, Dinas Efrog Newydd, Nouakchott, Dinas Panamâ, Quito, Prag, Rabat, Rio de Janeiro, San José, Costa Rica, San Juan, San Salvador, Santiago de Chile, Santo Domingo, Sarajevo, Sofia, Tegucigalpa, Tripoli, Warsaw, Cannes, La Serena, Chimbote, Dinas Brwsel, Athen, Damascus, Miami, Tirana, Maui County, Marrakech, Hama, Moscfa, Kyiv |
Nawddsant | Isidore the Laborer, Virgin of Almudena, Mariana de Jesús |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Villa y corte |
Sir | Madrid |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 604.4551 km² |
Uwch y môr | 663 metr |
Gerllaw | Manzanares, Arroyo Meaques |
Yn ffinio gyda | Alcorcón, Alcobendas, Leganés, Pozuelo de Alarcón, Getafe, Rivas-Vaciamadrid, San Fernando de Henares, Coslada, Paracuellos de Jarama, San Sebastián de los Reyes, Colmenar Viejo, Tres Cantos, Hoyo de Manzanares, Torrelodones, Las Rozas de Madrid, Majadahonda |
Cyfesurynnau | 40.4169°N 3.7033°W |
Cod post | 28001–28081 |
Corff gweithredol | Government Board of the City of Madrid |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Madrid |
Pennaeth y Llywodraeth | José Luis Martínez-Almeida |
Prifddinas Sbaen a phrifddinas yr ardal Comunidad Autónoma de Madrid yw Madrid. Madrid yw'r ddinas fwyaf poblog yn Sbaen, y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Llundain Fwyaf a Berlin, a'i hardal fetropolitaidd yw'r ail ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Paris, gyda phoblogaeth o 3,332,035 (2023) yn y ddinas a 3,332,035 o bobl o gynnwys yr ardal ehangach. Lleolir y ddinas ar lannau Afon Manzanares reit yng nghanol daearyddol y wlad, ac yng nghanol Comunidad Autónoma de Madrid, sy'n cynnwys dinas Madrid, ei chytrefi a'i maesdrefi a phentrefi ehangach; ffinia'r gymuned hon gyda chymunedau hunan-lywodraethol Castilla y León a Castilla-La Mancha. Mae ei harwynebedd yn 604.3 km2 (233.3 milltir sgwâr).[1]
Fel prifddinas Sbaen, lleoliad y llywodraeth a chartref y brenin Felipe VI; Madrid yw canolbwynt gwleidyddol y wlad hefyd.[2] Mae gan ardal drefol Madrid y CMC trydydd-mwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae ei ddylanwad mewn gwleidyddiaeth, addysg, adloniant, yr amgylchedd, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, diwylliant a'r celfyddydau i gyd yn cyfrannu at ei statws fel un o ddinasoedd mawr y byd.[3][4][5]
Mae Madrid yn gartref i ddau glwb pêl-droed byd-enwog, Real Madrid ac Atlético Madrid. Oherwydd ei allbwn economaidd, safon byw uchel, a maint y farchnad, ystyrir Madrid yn brif ganolfan ariannol a phrif ganolbwynt economaidd Penrhyn Iberia a De Ewrop.[6][7][8] Mae'n gartref i brif swyddfeydd llawer o gwmnïau mawr Sbaen, megis Telefónica, IAG neu Repsol. Madrid hefyd yw'r 10fed ddinas fwyaf byw yn y byd yn ôl cylchgrawn Monocle, yn ei mynegai ar 2017.[9]
Mae Madrid yn gartref i bencadlys 'Sefydliad Twristiaeth y Byd' y Cenhedloedd Unedig (UNWTO), Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Ibero-Americanaidd (SEGIB), Sefydliad Gwladwriaethau Ibero-Americanaidd (OEI), a Bwrdd Goruchwylio Budd y Cyhoedd (PIOB). Mae hefyd yn gartref i reoleiddwyr a hyrwyddwyr rhyngwladol mawr yr iaith Sbaeneg: Pwyllgor Sefydlog Cymdeithas yr Academïau Iaith Sbaeneg, pencadlys yr Academi Frenhinol Sbaenaidd (RAE), yr Instituto Cervantes a Sefydliad Sbaeneg Brys (Fundéu BBVA). Mae Madrid yn trefnu ffeiriau fel FITUR, ARCO, SIMO TCI ac Wythnos Ffasiwn Madrid.[10][11][12][13]
Mae yma bensaerniaeth ddiddorol iawn, ond nid mor unigryw a'r bensaerniaeth yng Nghatalwni. Ymhlith ei dirnodau mae brif sgwar (y Plaza Mayor), Palas Brenhinol Madrid; y Theatr Frenhinol gyda'i Thŷ Opera a adferwyd yn 1850; Parc Buen Retiro, a sefydlwyd ym 1631; adeilad y Llyfrgell Genedlaethol o'r 19g a sefydlwyd ym 1712; llawer o amgueddfeydd cenedlaethol,[14] a'r Triongl Celf Aur (Triángulo del Arte) wedi'u lleoli ar hyd y Paseo del Prado ac sy'n cynnwys tair amgueddfa gelf: Amgueddfa Prado, Amgueddfa Reina Sofía, ac Amgueddfa Thyssen-Bornemisza.[15] Mae Palas a Ffynnon Cibeles wedi dod yn un o symbolau peblogaidd o'r ddinas.[16][17]