Math | safle archaeolegol, carnedd gellog |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Calon Ynysoedd Erch Neolithig |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 1 ha, 4.638 ha |
Cyfesurynnau | 58.9966°N 3.1882°W |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Siambr gladdu Neolithig ar Ynysoedd Erch yn yr Alban yw Maes Howe, hefyd Maeshowe. Saif ar ynys Mainland, Ynysoedd Erch (Orkney).
Mae'r domen sy'n gorchuddio'r siambr gladdu yn 35 medr ar draws a 7 medr o uchder. Oddi mewn, mae cyntedd 10 medr o hyd yn arwain at y siambr ganolog, sy'n 4.7 medr ar draws a 4.5 medr o uchder. Adeiladwyd y cyntedd fel bod golau'r haul wrth iddo godi yn cyrraedd y siambr dair wythnos cyn a thair wythnos wedi'r dydd byrraf. Mae cynllun y beddrod yn debyg i Newgrange yn Iwerddon. Adeiladwyd Bryn Celli Ddu ym Môn, ar y llaw arall, fel bod golau'r haul yn cyrraedd y siambr ar y dydd hwyaf.
Gyda Skara Brae, Meini Stenness a Chylch Brodgar, mae Maes Howe yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.