Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.68°N 3.68°W |
Cod OS | SH862125 |
Cod post | SY20 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Mallwyd ( ynganiad ). Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Dyfi ar briffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Ar bwys y pentref mae cyffordd yr A458 o gyfeiriad Y Trallwng. Y pentrefi agosaf yw Dinas Mawddwy, tua dwy filltir i'r gogledd, ac Aberangell i'r de. Mae Afon Dugoed yn aberu yn Afon Dyfi ger y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]