Math | siroedd seremonïol Lloegr, sir fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd-orllewin Lloegr |
Poblogaeth | 2,867,800 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andrew Burnham |
Gefeilldref/i | Peine |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,275.9821 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Derby, Gorllewin Swydd Efrog |
Cyfesurynnau | 53.5025°N 2.31°W |
Cod SYG | E11000001 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Greater Manchester |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrew Burnham |
Sir fetropolitan a sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf (hefyd Manceinion Fawr) (Saesneg: Greater Manchester).
Roedd Manceinion Fwyaf yn un o chwe sir fetropolitan a grëwyd yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rhennir yr holl siroedd hyn yn fwrdeistrefi metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.
Fe'i dynodwyd yn ddinas-ranbarth ar 1 Ebrill 2011.
Mae Manceinion Fwyaf yn cwmpasu un o'r ardaloedd metropolitan mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddinas Manceinion ei hun. Fe'i ffurfiwyd o rannau o siroedd hanesyddol Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Swydd Efrog. Mae'n cynnwys deg bwrdeistref fetropolitan: Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan, a dinasoedd Manceinion a Salford.
Mae gan y sir arwynebedd o 1,276 km², gyda 2,812,569 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1]