Enghraifft o'r canlynol | comic format, comic genre, maes gwaith |
---|---|
Math | comic |
Gwlad | Japan |
Rhan o | anime and manga |
Enw brodorol | 漫画 |
Gwladwriaeth | Japan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gomics a digrifluniau (cartŵns) ydy Manga (Siapaneg 漫画), sy'n air Japaneg. Y tu allan i Japan mae'n golygu 'comics Siapaneaidd' yn neilltuol, ond yn Japan gelwir digrifluniau gorllewinol hefyd yn "manga". Mae'r farchnad manga wedi datblygu'n ddiwydiant anferthol, oedd yn werth tua $5.5 biliwn yn 2009 yn Japan, $250m (2012) yn Ewrop a $175m yn UDA.
Datblygodd Manga o gyfuniad o arddulliau ukiyo-e ac arddulliau darlunio tramor, a chymerodd ei ffurf bresennol yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Fel rheol mae'r lluniau i gyd mewn du a gwyn, ac eithrio'r clawr a'r tudalennau cyntaf; yr unig eithriad yw'r ffurf hybrid Animanga, sy'n cyfuno elfennau o Fanga ac Anime ac yn lliwgar iawn.