Marc | |
---|---|
Miniatur o Marc yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon | |
Ganwyd | c. 12, 20 Palesteina |
Bu farw | 25 Ebrill 0068, 68 Alexandria |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | henuriad |
Swydd | Patriarch Alecsandria |
Dydd gŵyl | 25 Ebrill, Bright Week |
Sant Marc (Hebraeg: מרקוס; Groeg: Μάρκος; fl. yn y ganrif 1af OC) yw awdur tybiedig Yr Efengyl yn ôl Marc. Roedd yn gyfaill i Sant Pedr ac yn gydymaith i Paul yr Apostol a Barnabas ar daith genhadol gyntaf Paul.
Dethlir Gŵyl Sant Marc ar 25 Ebrill, y dyddiad y'i laddwyd. Yn ôl traddodiad yn yr Eglwys Goptaidd sylfaenodd Marc yr eglwys yn Alecsandria, ac felly ef yw sylfaenydd Cristnogaeth yn yr Affrig. Roedd yn dwyn y teitl Esgob Alecsandria ac felly yn ragflaenydd i Babau Alecsandria, y penaethiad ar yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Ei symbol yw y llew.
Enwir nifer o eglwysi ar ôl Sant Marc; un o'r enwocaf yw Basilica San Marco, eglwys gadeiriol Fenis yn yr Eidal.
|