Marchell ferch Hawystl Gloff | |
---|---|
Ganwyd | 610 Bangor-is-y-coed |
Man preswyl | Talgarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 5 Medi |
Mam | Tangwystl ach Brychan |
Plant | Ina ach Cynyr |
Santes o'r 7g a gofnodir ei hanes yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint yw Marchell, merch Tangwystl neu Hawystl Gloff oedd yn un o 24 o Ferched Brychan Brycheiniog.[1] Ei thad oedd Tydanwedd ap Amlawdd Wledig a bu ganddi pedwar brawd, Teyrnog, Deifr, Tyfrydiog a Tudur. Cyfeirir [2] ati fel arfer fel Marchell o'r Eglwys Wen a Ladineiddiwyd yn Marcella. Magwyd hi a'i brodyr yn y clas ym Mangor-is-y Coed. Pan ymosododd y Sacsoniaid ar y clas yn 604 llwyddodd y teulu i dihangu i Ddyfryn Clwyd.
Sefydlodd Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen' yn lleol), Dinbych ganddi; yn agos at dau o'i brodyr, Teyrnog yn Llandyrnog a Deifr ym Modfari. Sefydlodd eglwys o'r un enw yn Llanrwst a chysegrwyd eglwys Marchell ym Marchwieil ger Wrecsam iddi. Yn eglwys Llandyrnog mae ffenestr lliw o'r 15g sydd yn dulunio Marchell gyda'i brawd Teyrnog a Gwenffrewi, Frideswide a Catrin o Alecsandria
Dallwyd ei gwylmabsant ar y 5ed o Fedi. Ni dylid ei chymysgu gyda'i hen nain Marchell o Dalgarth neu gyda'i wyres Marchell o Ystrad Marchell, (cwmw) ym Mhowys Wenwynwyn) a priododd Gwirin Farfdrwch, pennaeth Meirionnydd.