Gall y term marchnad gyfeirio at nifer o wahanol systemau, sefydliadau, gweithdrefnau, cysylltiadau cymdeithasol ac isadeileddau lle mae pobl yn masnachu, a lle caiff nwyddau a gwasanaethau eu cyfnewid, gan ffurfio rhan o'r economi. Mae'n galluogi i brynwyr a gwerthwyr gyfnewid pethau.[1] Mae marchnadoedd yn amrywio o ran maint, ystod, lleoliad, ardal wasanaethu a math, yn ogystal â'r mathau o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu masnachu. Maent iw cael mewn amryw o gymunedau, gyda rhai enghreifftiau yn cynnwys marchnadoedd ffermwyr lleol sy'n cael ei gynnal mewn tref neu faes parcio, canolfannau siopa, marchnadoedd nwyddau ac arian rhyngwladol, marchnadoedd cyfreithiol megis ar gyfer hawlenni llygru, a marchnadoedd anghyfreithlon megis y farchnad cyffuriau anghyfreithlon.
Mewn economeg cyffredinol, mae'r term marchnad yn cyfeirio at unrhyw strwythur sy'n caniatáu i brynwyr a gwerthwyr gyfnewid unrhyw fath o nwyddau, gwasanaethau neu wybodaeth. Trafodyn yw'r broses o gyfnewid nwyddau neu wasanaethau ar gyfer arian. Mae'r bobl sy'n cymryd rham mewn marchnad yn cynnwys yr holl brynwyr a gwerthwyr nwyddau sy'n cael dylanwad ar ei bris. Mae'r dylanwadu hyn yn cael ei astudio'n fawr ym maes economeg, ac mae nifer o ddamcaniaethau a modelau ynglŷn â'r grymoedd sylfaenol mewn marchnad, sef cyflenwad a galw. Mae dwy swyddogaeth mewn marchnad, y prynwr a'r gwerthwr. Mae marchnad yn hwyluso masnach, gan alluogi dosbarthu a dyrannu adnoddau mewn cymdeithas. Maent yn caniatáu i unrhyw eitem a ellir gael ei fasnachu, gael ei werthuso a'i brisio. Gall marchnad esblygu'n naturiol a dod i'r amlwg, neu gall ei greu'n fwriadol er mwyn galluogi cyfnewid hawliau (perchnogaeth) sy'n ymwneud â gwasanaethau ac/neu nwyddau.