Mascara, Algeria

Mascara, Algeria
Mathdinas, commune of Algeria, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth108,587 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1701 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBursa, Elkader Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMascara District Edit this on Wikidata
GwladBaner Algeria Algeria
Uwch y môr590 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.4°N 0.13°E Edit this on Wikidata
Cod post29000 Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Mascara (colur).

Dinas yng ngogledd-orllewin Algeria yw Mascara neu Mouaskar (Arabeg: مـعـسـكـر), canolfan y dalaith (wilayat) o'r un enw. Mae ganddi boblogaeth o tua 150,000 (amcangyfrifiad 2008). Ystyr yr enw Arabeg 'Mascara' yw "Mam Milwyr". Mae'n un o ganolfannau mawr Berberiaid Algeria, yn gartref i lwyth y Beni Rached.

Mascara oedd prifddinas yr Emir Abd El-Kader, a arweiniodd y gwrthsafiad cenedlaethol yn Algeria yn erbyn y gwladychwyr Ffrengig.

Mae'n ganolfan weinyddol a masnachol. Mae cynnyrch Mascara yn cynnwys nwyddau lledr, grawnfwyd ac olew olewydden, a gwin Mascara. Ceir cysylltiadau ffordd a rheilffordd da gyda gweddill Algeria. Mae Relizane yn gorwedd 65 km i'r gogledd-ddwyrain, Sidi Bel Abbes yn 90 km i'r de-orllewin, Oran yn 105 km i'r gogledd-orllewin a Saïda yn 80 km i'r de.


Developed by StudentB