Symbol | ♂ | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Nodweddion orbitol | |||||||
Pellter cymedrig i'r Haul | 1.52 US | ||||||
Radiws cymedrig | 227,936,640km | ||||||
Echreiddiad | 0.09341233 | ||||||
Parhad orbitol | 779.95d | ||||||
Buanedd cymedrig orbitol | 24.1309 km s−1 | ||||||
Gogwydd orbitol | 1.85061° | ||||||
Nifer o loerennau | 2 | ||||||
Nodweddion materol | |||||||
Diamedr cyhydeddol | 6792.4 km | ||||||
Arwynebedd | 1.44×108km2 | ||||||
Más | 6.4191×1023 kg | ||||||
Dwysedd cymedrig | 3.94 g cm−3 | ||||||
Disgyrchiant ar yr arwyneb | 3.71 m s−2 | ||||||
Parhad cylchdro | 24.6229a | ||||||
Gogwydd echel | 25.19° | ||||||
Albedo | 0.15 | ||||||
Buanedd dihangfa | 5.02 km s−1 | ||||||
Tymheredd ar yr arwyneb: |
| ||||||
Nodweddion atmosfferig | |||||||
Gwasgedd atmosfferig | 0.7-0.9kPa | ||||||
Carbon deuocsid | 95.32% | ||||||
Nitrogen | 2.7% | ||||||
Argon | 1.6% | ||||||
Ocsigen | 0.13% | ||||||
Carbon monocsid | 0.07% | ||||||
Anwedd dŵr | 0.03% | ||||||
arlliw |
Y bedwaredd blaned oddi wrth yr Haul yw Mawrth (symbol: ). Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg i'r Ddaear; mae iddo ddiwrnod 24.63 awr (y "sol") ac mae'n cymeryd 687 o ddyddiau i fynd o amgylch yr haul, sy'n golygu bod ei blwyddyn bron ddwywaith hirach na'r un ddaearol. Oherwydd ei bod yn bellach na ni o'r haul mae ei hwyneb yn oerach ac yn amrywio o –125°C yn y pegynau rhewllyd i 25°C yn llygad yr haul ar y cyhydedd.
Er nad yw pwysedd yr awyr ond yn 6mb (llai na 1% o bwysedd atmosfferig y ddaear), mae hynny'n dal yn ddigon i beru gwyntoedd cryfion sy'n achosi stormydd llwch amlwg iawn ar adegau a rheiny'n medru para am wythnosau. Mae'r aer dennau yn 95% carbon deuocsid, â'r gweddill yn neitrogen, argon ac ychydig bach bach o ocsigen ac anwedd dŵr. Ar y llaw arall, prin fod y tymheredd yn codi dros y rhewbwynt ac mae'r awyr yn denau iawn heb fawr o ocsigen. Mae gan Fawrth ddwy leuad neu loeren, sef Phobos a Deimos.
Mawrth yw'r unig blaned i roi ei henw i un o ddyddiau'r wythnos yn ogystal ag un o fisoedd y flwyddyn.
Am na fu'r prosesau erydu sydd wedi llunio tirwedd y ddaear cyn gryfed ar Fawrth fe erys rhai o'i mynyddoedd yn eithriadol o uchel a garw a cheir ceunentydd enfawr a serth sydd sawl gwaith dyfnach a hirach na'r Grand Canyon. Ceir hefyd losgfynyddoedd, e.e. Olympus Mons, sydd lawer iawn mwy na dim a geir ar y Ddaear, a sawl crater amlwg lle bu gwrthdrawiadau â sêr gwib o'r gofod yn y gorffennol. Nodwedd amlwg iawn yw'r pegynnau gwynion, sydd yn gapiau rhew – 85% carbon deuocsid a 15% dŵr. Heblaw am y pegynnau ni cheir dŵr ar yr wyneb ar hyn o bryd, ond yn ddiweddar daeth llawr o dystiolaeth ffotograffig y bu dŵr yn llifo yma ar un adeg – ni fedr rai o'r nentydd sychion a rhai nodweddion eraill fod wedi cael eu creu gan ddim byd arall yn ôl y farn wyddonol.