Enghraifft o'r canlynol | maes astudiaeth, disgyblaeth academaidd, maes gwaith, pwnc gradd |
---|---|
Math | Gwyddor iechyd |
Y gwrthwyneb | Meddyginiaeth amgen |
Rhan o | life sciences |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Meddygaeth yw'r wyddor iechyd a'r arfer o ofalu am glaf, y diagnosis a'r prognosis, atal salwch, triniaeth, lliniaru poen eu hanaf, eu hafiechyd, a hybu meddygaeth ataliol a iechyd cyffredinol pobl. Mae meddygaeth yn cwmpasu amrywiaeth o arferion gofal iechyd a ddatblygwyd i gynnal ac adfer iechyd trwy atal a thrin salwch. Daw'r canlynol o fewn ei orchwyl: cymhwyso gwyddorau biofeddygol, ymchwil biofeddygol, geneteg, a thechnoleg feddygol i ddiagnosio, trin, ac atal anafiadau a chlefydau. Ceisir gwneud hyn drwy fferyllaeth neu lawdriniaeth, ond hefyd trwy therapi mor amrywiol â seicotherapi, sblintiau a thyniant allanol, dyfeisiau meddygol, bioleg, ac radiotherapi ayb.[1][2][3]
Mae meddygaeth wedi cael ei hymarfer ers y cyfnod cynhanesyddol, ac yn ystod y rhan fwyaf ohono roedd yn gelfyddyd a oedd yn aml â chysylltiadau â chredoau crefyddol ac athronyddol y diwylliant lleol. Er enghraifft, byddai'r gŵr hysbys yn defnyddio perlysiau ac yn gweddïo am iachâd, neu byddai athronydd a meddyg hynafol yn gwaedu'r claf heb unrhyw dystiolaeth fod hynny'n ei wella! Yn ystod y canrifoedd diwethaf, ers dyfodiad gwyddoniaeth fodern, mae'r rhan fwyaf o feddyginiaeth wedi dod yn gyfuniad o gelf a gwyddoniaeth (sylfaenol a chymhwysol, o dan ymbarél gwyddoniaeth feddygol). Er bod techneg pwytho ar gyfer pwythau yn gelfyddyd a ddysgir trwy ymarfer, mae'r wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd ar y lefel cellog a moleciwlaidd yn y meinweoedd sy'n cael eu pwytho yn deillio o wyddoniaeth.
Gelwir ffurfiau hynafol o feddyginiaeth bellach yn feddyginiaeth draddodiadol neu'n feddyginiaeth werin, sy'n parhau i gael ei defnyddio'n gyffredin yn absenoldeb meddygaeth wyddonol, ac felly fe'i gelwir yn feddyginiaeth amgen. Duwies Geltaidd oedd 'Morwyn Llyn y Fan Fach' yn wreiddiol, cyn i'r stori droi'n stori Dylwyth Teg. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger Llanddeusant) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol un o'r enw Rhiwallon (mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith). Ymhen y rhawd aeth Rhiwallon a'r meibion eraill i lys Rhys Gryg o Ddeheubarth lle daethant yn feddygon enwog a adwaenir heddiw fel Meddygon Myddfai. Erys nifer o'i fformiwlau meddygol yn y llawysgrifau.