Carreg fawr ydy Megalith a ddefnyddiwyd fel rhan o heneb, gyda'r gair "mega" yn dod o'r Groeg am "mawr" a "lithos" yn golygu "carreg". Gall fod ar ei ben ei hun neu'n rhan o strwythur neu glwstwr ehangach megis cylch cerrig.
Mae'r gair wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd am unrhyw gasgliad o gerrig sydd wedi'u rhoi at ei gilydd i ffurfio adeilad neu strwythur ond yn Ewrop, mae fel arfer yn cael ei ddefnyddio am feini a godwyd yn Oes y Cerrig a'r Oes Efydd. Y mwyaf poblogaidd o'r math yma ar draws Ewrop ydy'r gromlech (Saesneg: portal tomb neu dolmen) sy'n cynnwys dair neu bedair carreg yn cynnal un garreg lletraws ac yn ffurfio un siambr. Cawsant eu codi rhwng 4000 a 3000 C.C. Enghraifft:
Yr ail fath ydy'r siambr gladdu (Saesneg: passage graves) sydd a llwybr o'r fynedfa hyd at y siambr. Mae Maes Howe yn enghraifft wych, neu Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Y trydydd math a welir fwyaf drwu Ewrop ydy'r Siambr gladdu hir.