Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Yn ôl dysgeidiaeth Islam, mae dynion a merched yn foesol gydradd ac mae'n rhaid i'r ddau gyflawni'r pum colofn: ffydd, gweddïo, elusengarwch, ymprydio, a phererindod.[1] Mae statws a hawliau merched yn dibynnu ar gyd-destun hanesyddol a diwylliannol y gymdeithas Islamaidd dan sylw. Yn gyffredinol maent yn gwisgo dillad sy'n gorchuddio rhywfaint penodol o'r corff, gall amrywio o sgarff syml i orchuddio'r gwallt, fêl o'r enw hijab, niqāb sy'n gorchuddio'r wyneb ac eithrio'r llygaid, neu burqa sy'n gorchuddio'r holl gorff gan gynnwys y llygaid.