Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Pencadlys | Aberystwyth |
Gwladwriaeth | Cymru |
Gwefan | http://merchedywawr.cymru/ |
Mae Merched y Wawr yn fudiad Cymreig a Chymraeg sy'n rhoi'r cyfle i fenywod i gymdeithasu trwy drefnu teithiau, cyngherddau a chyfarfodydd. Sefydlwyd y mudiad yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg rhai aelodau o Sefydliad y Merched gyda natur uniaith Saesneg y mudiad hwnnw.[1][2][3] Mae dros 250 o ganghennau yng Nghymru, ac fe gyhoeddir y cylchgrawn Y Wawr pedair gwaith y flwyddyn.
Yn 1994 aethpwyd ati i ddechrau sefydlu Clybiau Gwawr er mwyn denu aelodau ieuanc i’r mudiad.[4]
Yn 1975, gadawodd Zonia Bowen, prif sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus y mudiad oherwydd ei gwrthwynebiad i le crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y mudiad.[3]